| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Cwestiynau ac atebion ar gofrestru genedigaethau

C  Pryd mae angen cofrestru genedigaeth?

A  Yn gyfreithiol, rhaid cofrestru genedigaeth o fewn 42 diwrnod o eni'r plentyn.  Ffoniwch y Swyddfa Gofrestru i wneud apwyntiad.

C  Lle gellir cofrestru'r enedigaeth?

A  Os ganwyd eich plentyn mewn cyfeiriad yn Sir Ddinbych yna rhaid ei gofrestru gan Ddosbarth Gogledd neu Dde Sir Ddinbych. Fodd bynnag, medrwch fynd i unrhyw Swyddfa Gofrestru yng Nghymru neu Loegr i ddarparu'r manylion angenrheidiol. Cânt eu hanfon ymlaen atom ni a byddwn yn cofrestru'r enedigaeth ac anfon y dystysgrif atoch.
Os ganwyd eich plentyn y tu allan i'r Sir yna medrwch fynychu eich swyddfeydd ni i ddarparu'r manylion perthnasol ac yna anfonwn y rheiny ymlaen i'r dosbarth priodol er mwyn cofrestru'r enedigaeth. Os ydych yn dewis yr opsiwn hwn, bydd unrhyw ddogfennau yn cael eu hanfon atoch trwy'r post gan y swyddfa gofrestru.

C  Pwy a fedr gofrestru'r enedigaeth?

A  Os oedd y rhieni yn briod i'w gilydd adeg y geni, yna caiff y fam neu'r tad gofrestru'r baban. 

Fodd bynnag, os nad oedd y rhieni'n briod i'w gilydd, yna gellir fel rheol ond nodi manylion y tad ar y gofrestr os bydd y fam a'r tad yn mynychu'r Swyddfa Gofrestru gyda'i gilydd i gofrestru.

Os nad ydych yn briod ac os ydych eisiau manylion y tad ar y gofrestr ac os na fedr ef fynychu am unrhyw reswm, cysylltwch â'r Swyddfa Gofrestru am gyngor pellach os gwelwch yn dda.

Cyplau di-briod, nodwch os gwelwch yn dda:

O 1 Rhagfyr 2003 bu newid yn y gyfraith, a'i gwnaeth yn haws i dadau di-briod gael cyfrifoldeb rhieni cyfartal. Ar gyfer hyn, mae angen i'r ddau riant gofrestru genedigaeth eu baban gyda'i gilydd.

Mae cyfrifoldeb rhieni dros eich plentyn yn rhoi hawliau cyfreithiol pwysig i chi ynghyd â chyfrifoldebau. Heb hyn, nid oes gennych unrhyw hawl i chwarae rhan mewn penderfyniadau megis lle maent yn byw, eu haddysg, crefydd neu driniaeth feddygol. Gyda chyfrifoldeb rhieni, rydych yn cael eich trin dan y gyfraith fel rhiant y plentyn ac rydych yn cymryd cyfrifoldeb cyfartal wrth eu magu.

Mae gan Parentline Plus linell gymorth am ddim lle medrwch drafod yr opsiynau a gofyn am gyngor. Medrwch eu ffonio ar 0808 800 2222 neu Ffôn Testun 0800 7836783.

Ffioedd a thystysgrifau

Nid oes ffi ar gyfer cofrestru genedigaeth.

Bydd y swyddfa gofrestru yn rhoi tystysgrif fer i chi yn rhad ac am ddim. Mae'r dystysgrif hon yn dangos enw'r plentyn, rhyw, dyddiad a dosbarth genedigaeth. Medrwch wneud cais am dystysgrif eni lawn (yn cynnwys manylion genedigaeth y plentyn a manylion y rhieni) o'r swyddfa gofrestru ar unrhyw adeg ar ôl Cofrestru. Os ydych yn gwneud cais adeg Cofrestru bydd yn costio £3.50.  Os nad yw mewn Cofrestr gyfredol bydd yn costio £7.00.

Nodwch os gwelwch yn dda os ydych yn bwriadu gwneud cais am basport i blentyn a anwyd ar ôl 31 Rhagfyr 1982, mae angen tystysgrif eni lawn.

Byddwch hefyd yn derbyn ffurflen yn dangos rhif Gwasanaeth Iechyd Gwladol eich plentyn. Dylech fynd â'r ffurflen hon gyda chi i gofrestru eich baban gyda Meddyg Teulu.

O 1af Ebrill 2008, mae gwasanaeth Tystysgrif Blaenoriaeth  ar yr un dydd ar gael os byddwch yn ei archebu cyn 11.00a.m.: 

GwasanaethauFfi
£
Tystysgrif a roddir ar yr un dydd (ag eithrio Tystysgrif Hanes Teulu).
Rhaid derbyn ceisiadau cyn 11.00 a.m. 
£24.00 + £1.00 p&p
Gwasanaeth arferol  £7.00 + £1.00 p&p


 

Seremonïau Enwi

Rydym yn falch o gynnig Seremonïau Enwi i ddathlu genedigaeth eich plentyn ac i'w groesawu ef / ei chroesawu hi i'ch teulu. Dilynwch y cyswllt isod am wybodaeth bellach.

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0