Etholiadau Seneddol
Mae Etholiadau Seneddol hefyd yn cael eu galw'n Etholiadau Cyffredinol lle gallwch bleidleisio dros eich Aelod Seneddol (AS) lleol. Mae’ch AS yn rhannu’i h / amser rhwng gwaith yn Senedd San Steffan, Llundain a gwaith lleol yn eich ardal. Ceir tair etholaeth yn Sir Ddinbych:
- Dyffryn Clwyd
- Gorllewin Clwyd
- De Clwyd
Y cyfnod hwyaf y gall AS fod yn ei swydd yn ddi-dor yw pum mlynedd, er y gelwir etholiadau seneddol yn aml yn ystod pedwaredd flwyddyn y cyfnod. Cynhelir etholiadau pan fydd Ei Mawrhydi’r Frenhines yn diddymu’r senedd ac yn gwysio ethol senedd newydd ar gyngor ei phrif weinidog.
Rhaid cynnal yr etholiad Seneddol nesaf erbyn mis Mai 2010.

Rhoi adborth ar y tudalen hon