Y Strwythur
Grŵp Llywio Strategaeth Ddiogelwch Cymuned Sir Ddinbych
Fe benderfynir ar y strategaeth gan y Bwrdd Strategol, sy’n atebol am Ddiogelwch y Gymuned a chyflawni Targedau Gwasanaeth Cyhoeddus Cytun a Drafodwyd, Cynllun Gweithredu Camddefnyddio Sylweddau Cymru, a Strategaeth Troseddau’r Ifanc Cymru.
Grŵp Gweithrediad Sir Ddinbych
Mae’r grŵp hwn yn gosod cyfeiriad strategol nodwyd gan y Grŵp Llywio Strategol o fewn fframwaith gweithredol, er mwyn cyrraedd targedau’n llwyddiannus drwy oruchwylio perfformiad, symud rhwystrau i welliant perfformiad, ymgymryd â rheoli risg a gosod asesiadau deallusrwydd strategol ar gynlluniau gweithredu i wella diogelwch y gymuned.
Tîm Gweithredu Camddefnydd Sylweddau (TGCS)
Y Grŵp sy’n gyfrifol am ddarparu Cynllun Gweithredu Camddefnydd Sylweddau (Cymru) yn Sir Ddinbych. Mae’r grŵp yn cynnwys y rheiny sy’n ymglymedig â thaclo camddefnydd sylweddau ac yn cynnwys gweithwyr arbenigol mewn cyffuriau ac alcohol, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr y Bwrdd Iechyd Lleol a gweithwyr yr ymddiriedolaeth iechyd, swyddogion yr heddlu, a gweithwyr yr awdurdod lleol yn cynnwys y gwasanaethau cymdeithasol a phobl gefnogol. Mae TGCS yn cytuno cynlluniau gweithredu ac yn monitro datblygiadau. Mae rhaglen waith TGCS yn cael ei chyflawni drwy bedwar grŵp gweithredol – Triniaeth, Argaeledd, Plant Pobl Ifanc Teuluoedd a Chymunedau, a Hyfforddiant.
Ymddygiad Anghymdeithasol
Caiff datblygiadau i leihau pob math o ymddygiad anghymdeithasol ei reoli gan Grŵp Ymddygiad Anghymdeithasol. Mae Deddf Cymdogaeth ac Amgylchedd Glân 2005 Adran un yn diwygio adran 17 Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 gan roi gorfodaeth statudol am daclo ymddygiad anghymdeithasol ac ymddygiad sy’n effeithio’n andwyol ar yr amgylchedd ar bartneriaethau diogelwch y gymuned. Mae yna ddisgwyliad y bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am orfodaeth ar gyfer trosedd amgylcheddol. Mae ymddygiad o’r math yma’n cael ei nodi’n gyffredinol fel yr hyn sy’n gwneud i’n cymunedau deimlo’n anniogel heb neb yn gofalu amdanyn nhw, ac o’r herwydd yn achosi trosedd ac ofn troseddau. Ein blaenoriaeth yw sicrhau fod gennym brosesau cadarn ar gyfer taclo achosion troseddau ac ofn troseddau. Caiff rhaglen waith y grŵp ymddygiad anghymdeithasol ei darparu drwy dri is-grŵp, Grŵp Tai'r Gogledd, Grŵp Tai'r De a’r Grŵp Gorfodaeth.
Fforwm Camdriniaeth yn y Cartref a Diogelwch Personol
Blaenoriaeth y Fforwm yw codi ymwybyddiaeth o gamdriniaeth yn y cartref a’i effaith ac i nodi ac ymglymu pob cynulleidfa bosib. Mae’r Fforwm yn cynllunio ac yn darparu pecynnau codi ymwybyddiaeth ac ymarfer da ar gyfer pob asiantau a’r cyhoedd i gynyddu cefnogaeth ac i greu amgylchedd diogelach ar gyfer dioddefwyr camdriniaeth yn y cartref. Mae’n annog hysbysu a chofnodi achosion o gamdriniaeth yn y cartref er mwyn nodi’r mesuriadau addas o fewn y sir. Mae yna ddau is-grŵp sy’n cefnogi’r Fforwm: Plant a Phobl Ifanc, a Hyfforddiant.
Mae Cydlynydd Camdriniaeth yn y Cartref hefyd yn chwarae rhan allweddol yng Nghynhadledd Asesiad Risg Aml-asiant (CARA). Mae CARA’n cyfarfod yn fisol ac yn cynnwys yr heddlu, profiannaeth, Cymorth i Ferched, Tai Hafan, Ymddiriedolaeth GIG Conwy a Sir Ddinbych, Cymorth i Ddioddefwyr a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Mae CARA yn grŵp gweithredol, yn cynllunio ac yn cymeradwyo gweithrediadau i leihau aildroseddu. Mae CARA hefyd yn cynnig cyngor, cefnogaeth ac offer i ddioddefwyr i leihau’r risg o niwed.
Y Grŵp Gweithredu ar y Cyd (GGC)
Mae GGC yn hyrwyddo gweithio ar y cyd i ddatrys problemau’r gymuned na ellir eu datrys ar lefel leol. Mae hefyd yn nodi tueddiadau y dylid eu hystyried yn lleol ac i sicrhau lleihad mewn targedau a drafodwyd. Mae ymrwymiad gyda chymunedau lleol ac annog ymglymiad y gymuned yn ffactor hanfodol bwysig wrth leihau troseddau ac ofn troseddau.
Mae gan Sir Ddinbych bedwar Grŵp Diogelwch y Gymuned Leol. Maent yn cefnogi cyfeiriad gweithrediadau lleol nodir gan y GGC a grwpiau strategol eraill ym Mhartneriaeth Diogelwch Cymuned Sir Ddinbych, er mwyn cyrraedd targedau’n llwyddiannus. Gwneir hyn drwy: arolygu perfformiad troseddau, ymddygiad anghymdeithasol ac unrhyw ymddygiad arall syn effeithio’n andwyol ar yr amgylchedd. Mae’r GGC hefyd yn cefnogi ymglymiad y gymuned i nodi materion diogelwch y gymuned sy’n dylanwadu ar Weledigaeth Cymuned Sir Ddinbych a mentrau lleol sy’n cyfrannu tuag at strategaeth Sir Ddinbych ar ddiogelwch y gymuned.
Tîm Troseddau’r Ifanc (TTI)
Mae’r TTI yn cynnwys pobl o’r heddlu, gwasanaeth profiannaeth, gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, addysg, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, a swyddogion tai. Mae’n cydweithio â phobl ifanc sydd wedi troseddu ac yn nodi anghenion pob troseddwr ifanc drwy eu hasesu. Mae’r asesiad yn nodi’r problemau sy’n peri i’r bobl ifanc droseddu yn ogystal â mesur y risg i bobl eraill. Yna gall y GGC ddatblygu cynllun i atal aildroseddu.

Rhoi adborth ar y tudalen hon