Faint ellir ei ddyfarnu?
Pob cais fodd cyfrif defnyddio Lwfansau Tai Lleol (Welwch gwefan)
Sut mae’n cael ei gyfrifo?
Pob blwyddyn mae’r Llywodraeth yn cyhoeddi ffigurau canllaw sy’n nodi’r swm y mae pobl ei angen i gwrdd â’u hanghenion sylfaenol.
Mae’r ffigurau hyn yn amrywio yn dibynnu ar amgylchiadau rhywun. Caiff incwm rhywun sy’n hawlio budd-dâl ei gymharu â ffigur y Llywodraeth, ac os ydi o yr un fath, neu’n llai, yna fel arfer byddant yn derbyn 100% o fudd-dâl.
Os ydi o’n fwy yna caiff swm y budd-dâl wythnosol ei ostwng o 65c am bob Ł1 ychwanegol o incwm.
Fe all swm y budd-dâl gael ei ostwng hefyd os oes pobl 'nad ydynt yn ddibynnol' yn byw yn y cartref, er enghraifft plant dros 18 oed.
Mae’r rheoliadau sy’n rheoli cyfrifo budd-dâl yn gymhleth iawn ac oherwydd hyn mae ar y Cyngor angen gwybodaeth fanwl ynghylch person, ac amgylchiadau eu cartref, cyn y gellir gwneud cyfrif. Os ydych yn meddwl y gallech fod yn gymwys ar gyfer budd-dâl dylech gwblhau ffurflen gais.


Rhoi adborth ar y tudalen hon