| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Ailgylchu Cartref
Ailgylchu i Sir Ddinbych

Ailgylchu i Sir Ddinbych

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio gyda thrigolion y sir i ailgylchu gymaint o sbwriel ag y bo modd. Ar hyn o bryd mae llawer o gartrefi yn gallu ailgylchu gan ddefnyddio’r ‘blwch glas’ a gesglir o fin y ffordd, ac mae croeso i bawb yn y sir fynd â’u gwastraff i un o’r 5 parc ailgylchu neu unrhyw un o’r 21 safle derbynyddion ailgylchu yn y sir.

 Cewch wybodaeth am y cynllun ailgylchu drwy gyfrwng y blwch glas, yn cynnwys beth y gallwch ei roi yn y blwch, drwy glicio ar y cyswllt: cynllun blwch glas.

 Os ydych yn byw mewn ardal lle nad yw’r cynllun ‘blwch glas’ yn weithredol ar hyn o bryd, gallwch barhau i ailgylchu drwy fynd â gwastraff i’w ailgylchu i un o’r parciau ailgylchu neu i’r safleoedd derbynyddion ailgylchu yn y sir. Mae eich parc ailgylchu agosaf i'w weld yma.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0