| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Newyddion cludiant cyhoeddus
buses

Newyddion cludiant cyhoeddus

 
Yma mae gwybodaeth am gludiant cyhoeddus yn Sir Ddinbych. Mae hyn yn cynnwys bysus,
cludiant am ddim a hanner pris, cludiant cymunedol a linc hefo darparwyr cludiant eraill
 (e.e. Dial a Ride a'r bws nos).
Mae gwybodaeth am fws hamdden 'Bws Clwyd / Clwydian Ranger' sydd ar gael i gerddwyr ac ymwelwyr ar gael o fis Gorffennaf hyd fis Medi . Mae'n rhedeg bob dydd Sul ac ar y gwyliau banc dros yr haf. 

Teithio am ddim i'r henoed a phobl anabl


Gall pobl dros 60 oed a rhai pobl anabl deithio am ddim yn awr ar fysus yn Sir Ddinbych ac ymhellach. Mae'r pass bws ar gael ar bob gwasanaeth sy'n cymhwyso yng Nghymru i Loegr ac yn ôl, os bydd eich siwrnai yn dechrau ac yn gorffen yng ngogledd Cymru .
Gweler y dudalen wahanol am y manylion  ac i gael ffurflen gais. Byddwch angen prawf eich bod yn breswylydd yn Sir Ddinbych a phrawf o'ch oedran  (os ydych yn 60 neu drosodd) neu yn anabl. I gael mwy o wybodaeth  gweler y ffurflen gais.

Teithio rhatach i bobl ifanc


Os ydych yn byw yn Sir Ddinbych ac os ydych rhwng 16 ac18, byddwch yn cymhwyso i gael teithio hanner pris ar bob gwasanaeth i mewn ac allan o ogledd Cymru. Manylion yma (linc i http://www.16218.org )
Os ydych rhwng 19 a 22, gallwch hawlio pass sy'n rhoi disgownt o 25 y cant ar unrhyw fws Arriva sy'n rhedeg i neu allan o Ogledd Ddwyrain Cymru. Manylion yma (linc i http://www.19-22.org )
I gael mwy o wybodaeth ffoniwch 01824 706886

Cludiant Cymunedol - cynllun car gwledig


I bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig sydd heb gludiant cyhoeddus, neu i bobl sy'n ei chael hi'n anodd defnyddio'r bws, mae wyth cynllun car gwledig ar gael i bobl mewn ardaloedd gwledig gan gynnwys Clawddnewydd, Corwen, Dinbych, Llanarmon-yn-Iâl, Llandegla, Corwen, Llangollen a Rhuthun. Ffoniwch am y manylion ar 01824 706858.

Bws nos


Ar gael i unrhyw un sydd dros 50 oed yn y Rhyl, Prestatyn, Dyserth a Llanelwy, menter newydd ar gael un noson yr wythnos.
Ffoniwch 01824 708373 I gael mwy o wybodaeth  neu gweler y dudalen wahanol.

Dial-a-Ride

Os ydych yn byw yng ngogledd Sir Ddinbych ac os ydi hi'n anodd defnyddio gwasanaethau bws gallwch ymuno a Dial-a-Ride.  Mae Dial-a-Ride ar gael hefyd ar rai diwrnodau yn ardal Dinbych .
Mae ffi aelodaeth ond gall pobl sydd hefo Cerdyn Cymru i bobl anabl deithio am ddim .
Ffoniwch Dial-a-Ride 01745 344222 i gael mwy o wybodaeth .

Bws melyn
 
Mae'r bws modern hwn sy'n gallu cario 68 o bobl ar gael i ysgolion, colegau a mudiadau ddim am broffid. Cyngor Sir Ddinbych oedd yr Awdurdod cyntaf yng Nghymru i redeg bws mawr a luniwyd yn bwrpasol i gludo plant.
Bydd ar gael i'w hurio gyda'r nos, dros y penwythnos ac yn ystod y gwyliau ysgol a hefyd rhwng rhedeg plant i'r ysgol. Mae'n ddelfrydol ar gyfer ymweliadau addysg i'r pwll nofio tripiau maes a thripiau theatr. Ar y bws mae gwregysau diogelwch dros y glin ac ar draws y frest, ac mae wedi'i wneud i safon uchel gan gynnwys  nifer o nodweddion diogelwch a system gwylio teithwyr. Fe'i peintiwyd yn felyn ac mae'n amlwg i eraill sy'n defnyddio'r ffordd. Mae'r gyrwyr i gyd yn gyflogedig gan Gyngor Sir Ddinbych ac wedi cael archwiliad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol .
I gael mwy o wybodaeth neu i gael pris agorwch y daflen.
 

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0