Trwsio Ffordd
Sir Ddinbych - cynhaliaeth rhwydwaith ffordd y Sir
Mae'r adran Cludiant ac Isadeiledd yn gyfrifol am gynhaliaeth priffyrdd Sir Ddinbych sydd tua 900 milltir o ffyrdd gan gynnwys priffyrdd A, ffyrdd stadau a lonydd gwledig a phopeth sy'n mynd hefo nhw megis ymylon ffyrdd a thros 300 milltir o droedffyrdd (pafin).
Bob blwyddyn gwneir rhaglen o ail wynebu/selio gwaith ffordd i ddangos baenoriaeth ddiweddar y Cyngor Sir o wella cyflwr y rhwydwaith ffyrdd. Dewisir y cynlluniau sy'n gynwysedig o fewn y rhaglen flynyddol ar sail arolygon technegol a gweledol ac yn ol y flaenoriaeth, mae gwaith ar y gweill, i ganfod rhaglen o weithgareddau dros y 3 mlynedd nesaf.
Gwneir llawer o'r gwaith yn ystod misoedd yr haf gan fod rhai prosessau ail wynebu angen gwers uchel cyn y bydd y defnyddiau'n 'setio', ond ffactor fawr arall yw'r rheswm syml bod tywydd gwell a dyddiau hir yn angenrheidiol i wneud y gwaith.
Gellir cael manylioni cynlluniau penodol gan Mark Evans a Richard Jones o'r Adran Cludiant ac Isadeiledd.

Rhoi adborth ar y tudalen hon