Cynllun Blwch Glas
Mae Cyngor Sir Ddinbych, yn gweithio gyda SITA, wedi cyflwyno gwasanaeth ailgylchu ymyl palmant ‘blwch glas’ i dros 22,000 o gartrefi yn Sir Ddinbych gan wneud ailgylchu hyd yn oed yn haws.
Beth allaf i ei roi yn y Blwch Glas?
Oes os gwelwch yn dda, MAE arnom eisiau…
Pob tun (wedi’u rinsio’n lân, os gwelwch yn dda)
Pob potel a jar wydr (wedi’u rinsio’n lân, dim gwydr wedi torri)
Papurau newydd a chylchgronau
Tecstilau – nad ydynt yn addas ar gyfer elusen (Dim carpedi).
Na dim diolch, NID ydym eisiau…
Gwydr wedi torri neu ddefnyddiau miniog eraill
Potiau iogyrt, tybiau margarîn neu hufen iâ
Eitemau sydd wedi bod yn dal sylwedd peryglus (e.e. chwynladdwr, gwirod gwyn)
Gwydr Pyrex neu grochenwaith (e.e. dysglau caserol, gwydrau gwin)
Gwydr ffenestri
Dim plastig o gwbl
Dim carpedi.
Beth ddylwn i ei wneud gyda’m Blwch Glas?
Gofynnwn ichi roi’r Blwch Glas o fewn terfynau blaen eich cartref erbyn 7.30am ar eich diwrnod casglu. Gall yr amser y caiff eich blwch ei wagio amrywio ond rydym yn gwarantu ei gasglu os yw allan erbyn 7.30am.
Byddir yn mynd ag unrhyw bethau ailgylchadwy na wnânt ffitio yn y Blwch Glas os cânt eu gosod allan wrth ymyl y blwch a’u dosbarthu mewn bagiau cario plastig (nid sachau du).
Cofiwch, os byddwch yn mynd i ffwrdd ar wyliau a wnewch chi ofyn i gymydog roi eich Blwch Glas i’w gadw, gan y gallai gael ei chwythu i ffwrdd ac fe all hefyd wneud i’ch t edrych yn fregus.
Beth sy’n digwydd i’r holl ddefnyddiau?
Ar y diwrnod casglu, mae’r criw ailgylchu yn mynd â’ch blwch glas o ymyl y palmant, yn dosbarthu’r defnyddiau ailgylchadwy i’r rhaniadau unigol, ac yn dychwelyd y blwch glas gwag at eich t. Caiff y defnyddiau a gasglwyd eu cludo i ddepo, ble cânt eu gwneud yn swmp i’w gwerthu ac yn y diwedd eu hailgylchu.

Rhoi adborth ar y tudalen hon