| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Parcio
meysydd parcio

Meysydd Parcio yn Sir Ddinbych

Parcio yn Sir Ddinbych

Adran Trafnidiaeth ac Isadeiledd sy'n gyfrifol am ddarparu'r rhan fwyaf o'r meysydd parcio yng nghanol trefi Sir Ddinbych ac ar hyd yr arfordir. Mae ein meysydd parcio'n darparu dros 5,000 o fannau parcio ar hyd a lled y Sir.

Yn Sir Ddinbych, rhannwyd meysydd parcio'n rhai byr-aros a hir-aros. Mae'r meysydd parcio agosaf at y strydoedd siopa'n cael eu darparu ar gyfer byr-aros gyda'r prisiau'n adlewyrchu hyn. Caiff modurwyr sy'n dymuno sydd am aros am gyfnodau hwy eu hannog i ddefnyddio meysydd parcio hir-aros lle mae'r prisiau am aros dros 4 awr yn is. Mae peiriannau tocynnau Talu a Dangos yn holl feysydd parcio. Mae'r peiriannau'n derbyn darnau arian 5c, 10c, 20c, £1 a £2 ond nid ydynt yn rhoi newid.

Mae pris gostyngol arbennig ar gael i ddefnyddwyr maes parcio Gorsaf Drenau'r Rhyl sy'n prynu tocyn tren - pris tocyn drwy'r dydd yw £2.50 ac mae'n ddilys tan hanner nos.

Parcio talu a Dangos ar y Stryd

Mae parcio Talu a Dangos ar gael ar gyfer ceir ar y Promenad yn y Rhyl. Y darnau ffordd dan sylw yw ochrau gogledd-orllewin Rhodfa'r Gorllewin (rhwng Butterton a'r Stryd Fawr) a Rhodfa'r Dwyrain/Marine Drive (rhwng Rhodfa Fairfield a Splash Point).

Mae'r prisiau'n cael eu dangos ar bob peiriant tocynnau Talu a Dangos.

Bydd y taliadau'n cale eu casgly mewn peiriannau tocynnau 'Talu a Dangos' a osodwyd yn rheolaidd at hyd y darnau ffordd perthnasol.

Bydd cerbydau sy'n dangos bathodyn anabl 'glas' dilys neu ganiatad priodol a gyhoeddwyd gan y Cyngor yn rhydd o'r taliadau.

Mae caniatad parcio ar gael am y tal priodol i drigolion sy'n byw ar neu'n union ar bwys y darnau ffordd dan sylw ac sydd heb unrhyw gyfleusterau parcio eraill oddi ar y stryd. Dylid gwneud ceisiadau am ganiatad yn ysgrifenedig i'r Rheolwyr Gwasanaethau Parcio, Cyngor Sir Ddinbbych, Blwch Post 273, Rhyl, LL18 9EJ

Rhagor o Wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y Swyddfa Barcio ar 01745 839 250
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0