| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Cardiau Parcio Tocynnau Tymor
Denbigh Cardiau Parcio

Cardiau Parcio Tocynnau Tymor

Mae Tocynnau tymor ar gael. Gall y rhain arbed arian i ddefnyddwyr rheolaidd meysydd parcio ac osgoi gorfod cario newid i brynnu tocynnau talu a dangos. Mae dau fath o docyn tymor:

a)Tocyn blwyddyn i'w ddefnyddio yn holl feysydd parcio traethau a hir aros am:

24 mis - £120.00

12 mis - £65.00

6 mis - £37.50

3 mis - £21.25

(b) Cerdyn i’w ddefnyddio yn y meysydd parcio traeth yn unig am £35 (ar gael o Swyddfeydd Prestatyn a’r Rhyl) i’w defnyddio mewn Meysydd Parcio Tymhorol.

Tocyn Gostyngol Parcio Hir Aros

Os ydych dros 60 mlwydd oed mae yna Docynnau Gostyngol Parcio Hir Aros Blynyddol ar gael am £35 y flwyddyn. Mae'r tocynnau yma ar gael i berchnogion cerbydau Sir Ddinbych yn unig. Bydd disgwyl i chi brofi eich oed a'ch cyfeiriad pan r'ydych yn gwneud cais am docyn.

Mae tocynnau tymor ar gael o:

Y Siop Un Alwad, Neuadd Edeirnion, ffordd Llundain, Corwen

Y Siop Un Alwad, Neuadd y Dref, Stryd y Castell, Llangollen

Swyddfeydd y Cyngor, Ty Nanat, Ffordd Llys y Nant, Prestatyn

Neuadd y Dref, Ffordd Wellington, Y Rhyl

Swyddeydd y Cyngor, Ffordd Wynnstay, Ruthun

Y Siop Un Alwad, Llyfrgell, Llanelwy

Y Llyfrgell, Stryd Fawr, Dinbych

Y Siop Un Alwad, Llyfrgell, Rhuddlan.

Mae Pros gostyngol ar gyfer perchnogion cerbydau sy'n byw yn y Sir o oedran pensiwn - mae manylion ar gael o'r swyddfeydd ariannol a restrwyd uchod. Mae angen tystiolaeth oedran a pherchnogaeth cerbyd.

Cysylltwch a Gwasanaethau Parcio i gael gwybodaeth am gardiau parcio eraill sydd ar gael drwy'r sir i gyd.

Ffurflen Gais am Gerdyn Parcio Hir-aros

Lawrlwytho ffurflen i'w hargraffu, ei llenwi a'i dychwelyd atom.

Amodau Cyhoeddi Cardiau Parcio Hir-Aros

Mae Cardiau Parcio Hir-aros Cyngor Sir Ddinbych ar gael i drigolion y Sir a phobl eraill fel ei gilydd.

Ni fydd ceisiadau drwy’r post yn cael eu derbyn heblaw ar ffurflenni cais wedi’u llenwi’n briodol, ynghyd â’r taliad cywir, a’u hanfon at y Pennaeth Cyllid Neuadd y Dref, Y Rhyl.

Dim ond ar gyfer cerbyd penodol y bydd Cerdyn yn cael ei gyhoeddi.

Lle bo cerbyd yn cael ei newid bydd Cerdyn newydd yn cael ei gyhoeddi’n ddi-dâl wrth ildio’r hen Gerdyn, ynghyd â ffurflen gais wedi’i llenwi yn briodol.

Bydd cost weinyddol o £5.00 am Gerdyn yn lle un a gollwyd.

Bydd peidio â dangos Cerdyn yn peri rhoi rhybudd talu cosb.

Wrth barcio yn un o Feysydd Parcio Hir-aros dynodedig y Cyngor rhaid dangos y Cerdyn ar du mewn y sgrin wynt fel bod arolygydd y Cyngor yn gallu darllen y manylion arno o’r tu allan i’r cerbyd.
Caiff y Cerdyn ei gyhoeddi’n amodol ar y rheolau a rheoliadau, fel y bydd Cyngor Sir Ddinbych yn eu pennu o bryd i’w gilydd ac fe all y Cyngor ei dynnu’n ôl os bydd rheolau a rheoliadau o’r fath yn cael eu torri.

Ni fydd man parcio ar gais yn cael ei warantu i ddeiliaid Cerdyn Parcio Cyngor Sir Ddinbych, ond byddant yn cael parcio’n ddi-dâl (os oes lle ar gael) yn unrhyw un o feysydd parcio hir-aros dynodedig yr Awdurdod, sef:-

Meysydd parcio hir-aros  

  • Maes Parcio Canolog, Prestatyn  
  • Rhodfa Rhedyn, Prestatyn  
  • Ffordd Morley, Y Rhyl (Ardal ddynodedig yn unig)  
  • Gorllewin Stryd Cilmael, Y Rhyl  
  • Lôn y Post, Dinbych  
  • Lôn Crown, Dinbych  
  • Aml-lawr Ffynnon Barcer, Dinbych  
  • Mill Street, Llangollen  
  • East Street, Llangollen   
  • Brook Street Llangollen 
  • Market Street, Llangollen  
  • Hall Street, Llangollen 
  • Lôn Dogfael, Rhuthun 
  • Crispin Yard, Rhuthun  
  • Troed-y-Rhiw, Rhuthun 
    Ffordd y Parc, Rhuthun 
  • Stryd Fawr Isaf, Prestatyn
  • Lawnt Fowlio - Stryd Isaf, Llanelwy
  • Lawnt Fowlio - Stryd Isaf, Llanelwy
  • Stryd y Senedd, Rhuddlan
  • Stryd y Neuadd, Llangollen
  • Lon Las, Corwen
  • Pafiliwn - Ffordd Llundain, Corwen
  • Stryd y Bont, Corwen
Meysydd Parcio Tymhorol

(SYLWCH:- Gall rhai Meysydd Parcio Tymhorol fod ar gau yn ystod y gaeaf (Mis Hydref i fis Mawrth)

  • Traeth Barkby, Prestatyn
  • Dwyrain Ffordd y Traeth, Prestatyn
  • Nova Gorllewin/Nova Cefn, Prestatyn
  • Rhodfa'r Dwyrain,Y Rhyl
  • Stryd y Rhos, Rhuthun
  • Marine Lake, Y Rhyl
  • Stryd y Cei, Y Rhyl                                                                                                                                  

Ni fydd y Cerdyn yn rhoi hawl i’r deiliad barcio’n ddi-dâl yn UNRHYW UN o’r MEYSYDD PARCIO BYR-AROS yn y Sir, sef:-

  • Sgwâr Sant Pedr a Stryd y Farchnad, Rhuthun
  • Ward y Ffatri a Stryd y Dyffryn, Dinbych
  • Pentre’r Plant Dan Ddaear, Morfa Hall, Tŵr Awyr a Gorsaf Drenau, Y Rhyl
  • Rhodfa’r Brenin, Prestatyn

Parcio Cytundeb

Mae modd neilltuo lle mewn meysydd parcio hir-aros (hefyd ym maes parcio coetsis Crescent Road yn y Rhyl) am flwyddyn am £152.75 (yn cynnwys TAW). Cysylltwch a'r Swyddfa Barcio i gael rhagor o fanylion (01745 839 245 neu 01745 839 250)

Mae Cardiau Contract Cyngor Sir Ddinbych ar gael i drigolion y Sir a phobl eraill fel ei gilydd ac maent ar gael ym Maes Parcio Crescent Road, Y Rhyl, a Maes Parcio Dan Ddaear Pentre’r Plant, Y Rhyl.

Mae’r Cerdyn yn ddilys am flwyddyn o ddyddiad ei gyhoeddi ac mae’n berthnasol i’r man penodedig a rifwyd yn unig. Ni fydd ceisiadau drwy’r post ond yn cael eu derbyn ar ffurflenni cais wedi’u llenwi’n briodol sydd ar gael o Adran y Gwasanaethau Parcio, ynghyd â’r taliad cywir (£152.75 yn cynnwys TAW ar hyn o bryd) a’u hanfon at y Cyfarwyddwr Cyllid yn Neuadd y Dref, Y Rhyl.

Bydd peidio â dangos Cerdyn yn peri rhoi rhybudd talu cosb.

Wrth barcio yn y man contract penodedig rhaid dangos y Cerdyn ar du mewn y sgrin wynt fel bod y Gofalwr Parcio’n gallu ei ddarllen o du allan ochr y cerbyd.

Mae maes parcio Crescent Road ar agor i ddeiliaid contract 24 awr ond fe all gael ei gloi ar rai adegau. Os felly y mae bydd deiliaid Cerdyn yn cael allwedd a bydd disgwyl iddynt gloi’r glwyd wrth adael y maes parcio.

Bydd Maes Parcio Dan Ddaear Pentre’r Plant yn cael ei gloi dros nos am:

1800 – Mis Hydref i fis Mawrth
2359 – Mis Ebrill i fis Medi.

Caiff y Cerdyn ei gyhoeddi’n amodol ar y rheolau a rheoliadau, fel y bydd Cyngor Sir Ddinbych yn eu pennu o bryd i’w gilydd ac fe all y Cyngor ei dynnu’n ôl os bydd rheolau a rheoliadau o’r fath yn cael eu torri.

SYLWCH - Caiff prisiau i gyd eu hadolygu bob blwyddyn
 
Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0