Gwrteithiwr Cartref
Prynwch Fin Gwrteithio am £10
Rwy'n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir, ond does gennym ddim compostwyr cartref, maint cul, mewn stoc ar hyn o bryd.
I annog trigolion leihau eu gwastraff trwy wrteithio gartref, mae Sir Ddinbych yn gwneud cynnig newydd rhagorol. Mae'r gwrteithiwr cartref Slimline 300 yn fychan ac yn dal 300 litr o wrtaith. Mae ar gael nawr am y pris isel iawn o £10, gan gynnwys dosbarthiad am ddim.
Anfonwch y ffurflen, wedi ei chwblhau, a siec sy'n daladwy i 'Cyngor Sir Ddinbych' i wasanaethau'r Amgylchedd Cyngor Sir Ddinbych, Depo Parc Cinmel, Bodelwyddan, Sir Ddinbych, L18 5UX.
Fel arall gellir derbyn taliadau credyd / debyd dros y ffôn trwy ffonio ein tim gwasanaethau cwsmer ar 01824 706100.
Sut i wrteithio
Mae gwrteithio gartref yn hawdd, ac yn wych i'r ardd. Medrwch wrteithio'r cyfan yn y rhestr ganlynol:
- Pilion llysiau a ffrwythau
- Dail te, coffi wedi ei ddefnyddio a phlisgyn wy wedi ei falu
- Chwyn
- Toriadau gwair
- Gwallt
- Papur
- Baw anifeiliaid
- Clipion coed bythwyrdd
- Dail
- Tociadau
- Gwellt a gwair
- Llwch o'r peiriant sugno llwch
Nid yw popeth yn addas i'w wrteithio. Dylech osgoi'r canlynol:
- Hylif o'r corff, clytiau papur, hen hancesi papur (rhag ofn nad yw'r pathogenau sy'n cludo afiechyd oll wedi eu dinistrio gan y broses wrteithio)
- Ysgarthion – pobl/ cŵn /cathod (am yr un rheswm)
- Cerdyn neu bapur lliwgar neu sglein
- Gwrthrychau caled, cerrig, darnau o wydr, metel, plastig
- Hylif glanhau a chemegau tŷ/gardd eraill
- Cig (wedi ei goginio ac yn amrwd) - gall yr arogl ddenu anifeiliaid


Rhoi adborth ar y tudalen hon