| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Uned Gwasanaethau Cymdeithasol A Dysgu Gydol Oes
Dysgu Gydol Oes

Dysgu Gydol Oes

Darparwn gyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol i’r Gyfarwyddiaeth Dysgu Gydol Oes, yn arbennig ar faterion yn ymwneud â gwasanaethau Addysg.  Rydym yn trin apeliadau Derbyn a Gwahardd ac erlyniadau rhieni y mae eu plant yn peidio â mynychu ysgol.

Rydym hefyd yn cynghori’r Awdurdod, Ysgolion a Llywodraethwyr ar amrywiol faterion megis contractau ysgol; iechyd a diogelwch addysg; penodi Llywodraethwyr; addysg ôl-16; cludiant ysgolion a nifer o bynciau eraill.

Gwasanaethau Cymdeithasol

Darparwn gefnogaeth a chyngor cyfreithiol i’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.  Rydym wedi ein hisrannu’n:

(i) Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Y Gwasanaeth hwn yw’r maes gwaith uchaf ei broffil/risg y mae’r uned hon yn ei drin.  Ar ran y gwasanaethau cymdeithasol rydym yn cychwyn achosion i gael Gofal ac yn cynghori ar achosion lleoliadau mabwysiadu, sy’n dra sensitif a chyfrinachol.  Mae’r gwaith yn cynnwys gwrandawiadau Llys; cynadleddau Achos; Cyfarwyddo Bargyfreithwyr, yn ogystal â mynychu paneli mabwysiadu a maethu sy’n cwrdd yn rheolaidd a’u cynghori.

Cychwynnir achos i gael Gofal ble mae pryder am blentyn a all fod mewn perygl o niwed neu esgeulustod corfforol, rhywiol neu emosiynol.  Mae angen i ganlyniad unrhyw achos sicrhau gofal parhaol i blant boed hynny gydag aelodau agosaf y teulu, gofal maeth neu fabwysiadu.

(ii) Gwasanaethau Oedolion ac Iechyd Meddwl

Rydym yn cynghori gwasanaethau oedolion mewn perthynas â bobl hŷn, y rheini gydag anawsterau dysgu / gwasanaethau oedolion arbenigol, iechyd meddwl, gofal iechyd GIG parhaus, amddiffyn oedolion bregus, codi pris am lety a chynghori ar ddeddfwriaeth newydd a materion polisi a chyfarwyddyd.

Mae hyn yn cynnwys ymchwilio i ddeddfwriaeth iechyd meddwl a gofal yn y gymuned / cyfraith achosion yn fanwl a chynghori Gweithwyr Cymdeithasol a Rheolwyr o fewn gwasanaethau oedolion gyda chyfarfodydd amlddisgyblaethol i geisio datrys materion dyrys rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a defnyddwyr Gwasanaethau a mynychu’r cyfarfodydd hynny hefyd.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0