Gofal Cwsmer
Cyngor Sir Ddinbych
Neuadd y Sir
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
LL15 1YN
Teleffon:
01824 706100
Ffacs:
01824 706180
Y syniad y tu ôl i ‘Ofal Cwsmer’ yw darparu mwy o wasanaethau i chi yn y man cyswllt cyntaf. Dengys gwaith ymchwil fod y rhan fwyaf o’n cwsmeriaid yn dewis ein ffonio ni. Felly dim mwy o gael eich trosglwyddo o un swyddog i’r llall wrth i chi geisio dod o hyd i’r unigolyn cywir i siarad efo fo/hi – yn hytrach, bydd Cynghorydd Gwasanaeth Cwsmer hyfforddedig yn derbyn eich galwad ac yn ateb eich ymholiad yn y fan a’r lle.
Mae mwy a mwy o bobl yn cysylltu gyda ni drwy gyfrwng y wefan erbyn hyn – rydym yn disgwyl i fwy na 650,000 o bobl ddefnyddio’r wefan eleni. Eisoes gallwch dalu biliau ar-lein a chael llu o wybodaeth am y Cyngor Sir a’r gwasanaethau a gynigir. Efallai na fydd troi at y wefan ynghanol nos at ddant pawb, ond bydd yn darparu cyfleustra ychwanegol i rai.
Ac i’r rhai ohonoch chi sy’n hoffi dod i swyddfeydd y cyngor, byddwn yma i chi. Mae gennym rwydwaith o Siopau Un Alwad a Swyddfeydd Arian Parod drwy’r sir gyda staff y Cyngor yno i’ch cyfarch a’ch cynorthwyo chi.
Yn dilyn y cyfnod ymgynghori diweddar mae nifer o newidiadau wedi’u gwneud i’r Strategaeth Cysylltu â Cwsmeriaid.
Ymddiheurwn nad yw’r dogfennau ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd gan eu bod mewn fformat drafft o hyd; byddent yn cael eu hadolygu gan Gabinet Cyngor Sir Ddinbych yng Ngorffennaf.
Yn dilyn unrhyw ddiwygiadau pellach a chymeradwyaeth gan y cabinet, caiff y fersiwn terfynol ei chyhoeddi yn y Gymraeg a’r Saesneg.


Rhoi adborth ar y tudalen hon