Mae Cyngor Sir Ddinbych yn amcanu i gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus hygyrch, o’r safon uchaf un, sy’n cwrdd ag anghenion cwsmeriaid.
Rydym yn cyflwyno’r wybodaeth hon er mwyn eich gwneud yn ymwybodol o’r safonau y gallwch ddisgwyl eu cael.
Mae Datganiad Gwasanaeth Corfforaethol Gwasanaeth Cwsmeriaid Sir Ddinbych fel a ganlyn:
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y bydd y gwasanaethau, y cyfleusterau a’r adnoddau a ddarperir gan yr Awdurdod yn hygyrch ac yn ymateb i bob unigolyn ac i’r holl gymunedau.
Gall yr holl gwsmeriaid ddisgwyl:
• I wasanaethau sydd yn cwrdd â’u hanghenion personol gael eu darparu.
• Cwrteisi a pharodrwydd wrth eu helpu i gael mynediad i’n gwasanaethau.
• I sicrhau bod unrhyw ymholiad sydd ganddynt yn cael sylw effeithlon a phriodol a bod eu barn a’u sylwadau yn derbyn gwrandawiad.
• Cynrychiolwyr y Cyngor sy’n hawdd eu harenwi.
• Bod gwybodaeth sy’n cwrdd â’u hanghenion unigol yn cael ei darparu.
• Dull rhwydd o roi adborth i’r Cyngor.
Safonau Gwasanaethau Cwsmer Corfforaethol Sir Ddinbych:
Cysylltu gyda’r Cyngor:
• Byddwn yn galluogi dinasyddion i gael mynediad i’r gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg, ieithoedd ethnig lleiafrifol, yr Iaith Arwyddo Brydeinig, print bras a Braille.
• Ein hamcan yw cyfathrebu mewn iaith glir sydd yn hawdd i’w deall.
Galwadau ffôn:
• Bydd yr holl alwadau ffôn i’r Cyngor yn cael eu hateb mewn modd sy’n unol â’r Arweiniad Corfforaethol ar gyfer Ateb GalwadauTeleffon.
• Yn eu habsenoldeb, byddwn yn ateb galwadau ffôn ar ran aelodau staff ac yn ceisio ateb ymholiadau’r cwsmeriaid. Os na fydd hyn yn bosibl byddwn yn derbyn y neges. Wedi i ni dderbyn y neges byddwn yn ffonio’n ôl cyn diwedd y diwrnod gwaith canlynol.
• Pan fydd angen am hynny byddwn yn ffonio cwsmer i gydnabod neges postllais cyn diwedd y diwrnod gwaith canlynol.
• Bydd 80% o’r galwadau ffôn a wneir i’r Ganolfan Gwasanaethau Cwsmer Corfforaethol yn cael eu hateb cyn gynted â phosibl, o fewn 30 eiliad ar y mwyaf.
Y Wefan:
• Bydd y wefan gorfforaethol yn cael ei diweddaru’n ddwyieithog yn rheolaidd. Bydd unrhyw newidiadau i ddanfoniad gwasanaethau yn cael eu cofnodi cyn gynted â phosibl, ac ar yr hwyraf o fewn cyfnod o 2 ddiwrnod wedi i’r newid gael ei wneud.
Gohebiaeth ysgrifenedig:
• Bydd pob e-bost a anfonir i gyfeiriadau e-bost corfforaethol (e.e. gwasanaethcwsmer@sirddinbych.gov.uk) yn cael eu cydnabod gydag ymateb awtomataidd a fydd yn cael ei yrru i’r anfonwr.
• Bydd yr holl negeseuon e-bost a anfonir i gyfeiriadau adrannol (e.e. gwasanaethcwsmer@sirddinbych.gov.uk) ynghyd â llythyrau sydd yn gofyn am ymateb yn cael eu hateb o fewn cyfnod o 10 niwrnod. Pan na fydd hynny’n bosibl byddwn yn darparu diweddariad mewn perthynas â’r ymholiad ynghyd â dyddiad ymateb diwygiedig.
Danfoniad Gwasanaethau:
• Bydd y gwasanaethau y gwneir cais amdanynt trwy’r Gyfundrefn Rheolaeth Perthynas Cwsmeriaid yn cael eu danfon oddi mewn i’r amserlen a amodwyd i’r cwsmeriaid.
• Byddwn yn darparu gwasanaethau yn unol â safonau danfoniad y gwasanaethau eu hunain.
Ceisiadau am wybodaeth:
• Byddwn yn delio gyda cheisiadau am wybodaeth yng nghyd-destun gwahanol fathau o ddeddfwriaeth yn unol â’r amserlen ragnodedig, er enghraifft, bydd ceisiadau am wybodaeth dan y drefn rhyddid gwybodaeth yn cael eu cydnabod o fewn 5 diwrnod gwaith a byddwn yn ymateb iddynt o fewn 20 diwrnod.
Cwynion:
• Yn unol â’r Polisi Cwynion Corfforaethol, byddwn yn cydnabod bob cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith ac yn ymateb iddynt cyn gynted â phosibl, o few y graddfeydd amser rhagnodedig. Pan na fydd hyn yn bosibl, byddwn yn darparu diweddariad ynghylch y gwyn ynghyd â dyddiad ymateb diwygiedig.
Cyhoeddusrwydd:
• Byddwn yn gwneud yn fawr o bob cyfle posibl i hyrwyddo gwasanaethau’r Cyngor a llwyddiannau ac amcanion a nodau’r rhanddalwyr.
• Hyrwyddo rhagor o gyfranogiad yn y mentrau a drefnir gan y Cyngor.
Cyhoeddiadau corfforaethol:
• Sicrhau bod yr holl ddefnyddiau hyrwyddo yn cael eu cynhyrchu mewn modd sy’n unol â pholisïau corfforaethol.
• Sicrhau bod yr holl ddefnyddiau hyrwyddol yn hygyrch ac mewn fformat o ddewis y cwsmer, e.e. fel copi caled, yn electronig neu mewn print bras, Braille ayb.
Achlysuron cyhoeddus:
• Sicrhau bod y Cyngor yn hygyrch yn yr holl ddigwyddiadau cyhoeddus o bwys.
• Hyrwyddo gwasanaethau’r Cyngor i bawb.

