Mae'n rhaid i awdurdodau lleol ddynodi "unrhyw ardal o ddiddordeb Pensaernļol neu Hanesyddol, y mae'n ddymunol gwarchod neu wella ei chymeriad neu'i golwg" yn Ardaloedd Cadwraeth. Fel arfer canol trefi neu bentrefi yw Ardaloedd Cadwraeth er y gall ardaloedd eraill gael eu dynodi. Mae gan Sir Ddinbych 34 o Ardaloedd Cadwraeth. Mae cynlluniau a dadansoddiadau cymeriad ar gael i'w gweld yn y Swyddfa Gynllunio, Ffordd Smithfield, Dinbych - 01824 706727.
Yn ymarferol, mae statws Ardal Gadwraeth yn golygu y bydd:-
- Ceisiadau am ganiatād cynllunio yn cael eu hasesu, ymhlith pethau eraill, yn ōl effaith y cynnig ar gymeriad a golwg
yr ardal.
- Bydd dymchweliad sylweddol adeilad mewn Ardal Gadwraeth yn gofyn am ganiatād ar wahān a adwaenir fel
"Caniatād Ardal Gadwaraeth". Ni fydd hwn yn cael ei ganiatāu fel rheol oni bai bod ffurf dderbyniol a ail-ddatblygu
wedi'i chytuno.
- Mae angen chwe wythnos o rybudd i'r awdurdod cynllunio lleol cyn y ceir torri, brigdorri neu docio coed o fewn
Ardaloedd Cadwraeth.
Mewn rhai achosion, fe all yr awdurdod cynllunio lleol dynnu hawliau datblygu a ganiateir yn ōl o fewn Ardaloedd Cadwraeth. Mae hyn yn golygu y bydd rhai mathau o fān waith ar dai annedd ag angen caniatād cynllunio ble nad oedd angen hynny o'r blaen. Mae hyn yn wir yn Ninbych, er enghraifft, ble mae lefel y cymorth grant yn cyfiawnhau'r mesur rheoli ychwanegol hwn.


Rhoi adborth ar y tudalen hon