Ar-lein
Gallwch dalu Treth Cyngor, Rhent Tai, Trethi Busnes (Trethi Gwladol Annomestig) a Hysbysiadau Cosb Parcio ar-lein, 24 awr a 7 diwrnod yr wythnos gan ddefnyddio’ch cerdyn debyd neu gredyd. Bydd angen rhif y cyfrif oddi ar eich bil.
Sylwer: I dalu ar lein byddwch angen defnyddio Microsoft's Internet Explorer. Cliciwch yma i gael y fersiwn ddiweddaraf.
Debyd Uniongyrchol
Gallwch dalu Treth Cyngor, Rhent Tai a Threthi Busnes (Trethi Gwladol Annomestig) drwy Ddebyd Uniongyrchol. Dyma’r ffordd hawsaf, fwyaf cyfleus o dalu ac mae’n warantedig. Unwaith y byddwch wedi arwyddo cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol, fe drefnir taliadau rhwng y Cyngor a’ch Banc neu Gymdeithas Adeiladu chi. Ond, mae gennych reolaeth lawn bob amser. Bydd y trefniant yn parhau cyn hired ag y mynnwch chi, gan arbed y drafferth o ysgrifennu ac anfon siec neu giwio i dalu. Does dim angen cofio pryd mae eich taliad nesaf yn ddyledus ac fe gewch eich hysbysu o unrhyw newidiadau i ddyddiad neu swm ymlaen llaw.
I drefnu Debyd Uniongyrchol am Rent Tai ffoniwch 01824 712965 neu 01824 712963 neu cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Trawslwythwch ffurflenni Debyd Uniongyrchol Treth Cyngor a Threthi Busnes.
Ar y Ffôn
Talwch ar y ffôn, 24 awr a 7 diwrnod yr wythnos gan ddefnyddio’ch cerdyn debyd neu gredyd. Bydd angen rhif y cyfrif oddi ar eich bil. Ffoniwch 01824 706145 i fanteisio ar ein cyfleuster talu sy’n gwbl awtomatig.
Swyddfeydd Arian/Siopau Un Stop
Talwch yn un o’r Swyddfeydd Arian ar ein rhwydwaith ledled y Sir.
Swyddfa’r Post
- Gallwch dalu am ran fwyaf o'n gwasanaethau yn y Swyddfa Post:
- Treth Cyngor (Drwy ddefnyddio eich cerdyn talu)
- Trethi Tai (Drwy ddefnyddio eich cerdyn talu)
- Dirwyon Parcio
- Anfondebau Cyffredinol
- Gofal Cartref


