| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Caniatād Adeilad Rhestredig

Mae rhestru'n darparu lefel ychwanegol o amddiffyniad. Mae hyn ar ffurf trefn gynllunio arbennig a adwaenir fel Caniatād Adeilad Rhestredig.  Cyn y gellir newid, ymestyn neu ddymchwel adeilad rhestredig, rhaid cael caniatād gan yr awdurdod cynllunio lleol.  Fel rheol bydd hwnnnw ond yn cael ei ganiatįu os y dangosir na fydd y gwaith yn andwyol i gymeriad yr adeilad.  Byddai'r Tīm Cadwraeth yn falch o roi cyngor ar unrhyw gynnig i unrhyw adeilad rhestredig yn y Sir ac argymhellir y dylid cysylltu ā hwy mor gynnar ā phosibl. Argymhellir hefyd, cyn cyflwyno cais ffurfiol, y dylid gofyn am gyngor gan bensaer neu syrfėwr profiadol.

Mae'r Tīm Cadwraeth yn dal cronfa ddata gyfredol o'r holl adeiladau rhestredig o fewn y Sir ac fel rheol gallant roi gwybod dros y ffōn a yw adeilad wedi'i restru neu beidio.  Os oes gennych unrhyw amheuaeth, gofynnwch da chi gan fod yna gosbau trwm am wneud gwaith diawdurdod ar adeilad rhestredig.

Mae Caniatād Adeilad Rhestredig yn hollol ar wahān i ganiatād cynllunio a chymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu.  Bydd y Tīm Cadwraeth yn gallu cynorthwyo wrth gyfeirio ymholiadau at swyddogion eraill y Cyngor ble mae angen.  Mae ffurflenni cais ar gael o'r swyddfeydd hyn:-

Trem Clwyd
Canol y Dre
Ruthin
Denbighshire
LL15 1QA
Tel No. 01824 708111

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0