| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Clytiau Go Iawn
Clytiau Go Iawn

Defnyddiwch Glytiau Go Iawn – Arbed Arian a'r Amgylchedd

Mae babi, ar gyfartaledd, yn defnyddio 5,000 o glytiau. Os ydych yn defnyddio rhai papur, ni ellir ailgylchu nac ailddefnyddio'r rhain ac mae'n rhaid iddynt gael eu tirlenwi, lle byddant yn aros am gannoedd o flynyddoedd. Yng Nghymru, teflir rhyw 200 miliwn o glytiau i ffwrdd bob blwyddyn.

Mae clytiau ailddefnyddiadwy modern yn hawdd i'w defnyddio, ac mae llawer o opsiynau gwahanol.

  • Mae clytiau cotwm modern yn dod mewn amrywiol siapiau a math gyda chlymwr Velcro a phopiwr - mae'r dyddiau o blygu a phinnau drosodd!
  • Gall rhieni arbed cannoedd o bunnau trwy ddefnyddio clytiau cotwm – a gall yr arbedion fod yn fwy fyth i ail neu drydydd plentyn.
  • Mae golchi clytiau cotwm yn hawdd - dim angen berwi neu fwydo - dim ond golchi ar 60 gradd.
  • Er hwylustod mwyaf, mae gwasanaethau golchi clytiau yn casglu clytiau budr a dosbarthu rhai glân yn uniongyrchol at y drws.
  • Nid oes mwy o berygl o frech clwt yn dod o glytiau cotwm na rhai papur – mae brech clwt yn cael ei achosi gan lawer o ffactorau megis diet ac alergeddau.

I annog mwy o rieni yn Sir Ddinbych i ailgylchu, mae'r Cyngor yn cynnig cymhelliad ariannol i rieni sy'n defnyddio clytiau ailddefnyddiadwy.

Cynllun Cymell

Mae'r Cyngor yn cynnig talebau gwerth hyd at £75 i'w defnyddio fel rhandal naill ai ar gyfer prynu clytiau go iawn neu i ddefnyddio'r Gwasanaeth Golchi Clytiau Go Iawn.

I gymhwyso:

  • Rhaid i chi a'ch plentyn fyw yn Sir Ddinbych
  • Rhaid i'ch plentyn fod rhwng 0 a 18 mis oed

Byddwch yn derbyn talebau gwerth £25 yr un pan fo eich baban yn 0-3 mis oed, 4-9 mis a 10-18 mis oed.

Dylech anfon copi o'r Dystysgrif Geni a dau fil amwynderau (utilities bills) diweddar neu eich bil Treth y Cyngor diweddaraf. Rydym nawr yn derbyn MAT B1 yn lle'r dystysgrif geni gan rieni sy'n dymuno gwneud cais am dalebau cyn geni'r babi.

Derbynnir y talebau hyn gan y cwmnïau canlynol:

BabyKind

Bambino Mio

Ffôn: 01286 882617

Gwefan: www.bambinomio.com

Gwefan: www.babykind.co.uk

Cottontails Nappy Laundry Service

Geobel

Ffôn: 01244 374521

Ffôn:01257 413409

Gwefan: www.cottontails.co.uk

Gwefan: www.geobel.co.uk

Green Jelly

Lizzie's Real Nappies, Chester

Ffôn: 01799 530776

Ffôn: 01244 346797

Gwefan: www.jellyonthenet.co.uk

Gwefan: www.lizziesrealnappies.co.uk

 

 

The Nappy Lady

The Nursery Window, Y Rhyl

Gwefan: www.thenappylady.co.uk

Ffôn:  01745 330115

 

Tots And Tails, Graigfechan - Lucy Chantrey

The Recycle Lady, Denbigh
Ffôn: 01824 704744Ffôn: 01745 814118

Gwefan: www.therecyclelady.co.uk

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0