Plant a Phobl Ifainc
Oes'na groeso i blant? Oes - croeso cynnes iawn. Mae gan bob llyfrgell ystafell neu ran arbennig i blant gyda llyfrau a gweithgareddau i bob oedran.
Pa oed sydd angen bod i ymaelodi? Unrhyw oed! Gore po gyntaf - gall babis ymuno o ddiwrnod eu geni! Mae rhannu llyfrau o'r cyfle cyntaf yn rhoi cychwyn gwych i bob plentyn.
Sut mae ymaelodi? Trwy lenwi ff urfien ymaelodi yn y Ilyfrgell neu ar y we, cael Ilofnod rhiant/ofalwr a dangos 2 brawf adnabod ar eich ymweliad cyntaf.
Ydi o am ddim? Ydi - mae bod yn aelod, benthyg Ilyfrau a defnyddio'r cyfrifiaduron yn rhad ac am ddim. Mae tftl bychan am fenthyg DVDS, fideos a CDs.
Be ga'i fenthyg ac am faint? Hyd at 10 eitem ar y tro am 3 wythnos i ddechrau.
Beth os ydw i'n hvvyr? Nid oes dirwy osyw plentyn yn hwyryn dychwelyd eitemau - ond beth am eu hadnewyddu cyn hynny?
Ga'i ddenfyddio'r cyfrifiaduron? Cewch ddefnyddio'r cyfrifiaduron yn rhad ac am ddim. Os ydych chi dan 11 oed byddwch angen oedolyn gyda chi. Rhwng 11 ac 14 oed byddwch angen caniatad gan rhiant/ofalwr.
Fedra i gael cymorth gyda gwaith ysgol? Mae 'na lyfrau a chyfrifiaduron i chi eu defnyddio i wneud ymchwil ac i baratoi gwaith.
Oes 'na weithgareddau arbennig i blant? Yn ystod y gwyliau haf, beth am ymuno yn y sialens ddarlien genedlaethol? Yn ystod Wythnos Llyfrau Plant, bydd plant ysgolion lleol yn dod i'r llyfrgell i gyfarfod awduron. Mae cyfleoedd hefyd i ddarlienwyr, ysgrifennwyr ac arlunwyr ifanc ddod at ei gilydd.
Beth yw Dechrau Da/Bookstart? Cynllun i annog rhieni i rannu Ilyfrau gyda babis a phiant bach. Yn ogystal A Ilyfrau i fabis ym mhob Ilyfrgell, mae amseroedd stori a rhigwm hefyd. Mae pob plentyn yn derbyn rhodd o lyfrau a gwahoddiad i ymaelodi a'r Ilyfrgell oddi wrth eu hymwelydd iechyd. Mae croeso i famau fronfwydo eu babis yn y Ilyfrgell ac mae mat newid clwt ar gael i'w fenthyg hefyd.

Rhoi adborth ar y tudalen hon