| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Hawliau Tramwy Cyhoeddus
hawliau tramwys cyhoeddus

Trefnidiaeth ac Isadeiledd - Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Mae'r Uned Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn gweithio oddi mewn i Adran Trafnidiaeth ac Isadeiledd Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd yn Swyddfeydd Caledfryn yn Ninbych. Gallwch gael manylion cysylltu trwy ddolenni cyswllt ar y dudalen we hon. .

Hawliau Tramwyr Cyhoeddus yw'r amryfal ffyrdd man sy'n bodoli yn y sir sy'n cynnwys Llwybrau Cyhoeddus, Llwybrau Ceffylau a Chilffyrdd Agored i Holl Draffig sydd, ynghyd a'r rhwydwaith ffyrdd cyhoeddus, ar gael i'r cyhoedd gerdded. beicio, marchogaeth ac, mewn rhai achosion, yrru cerbydau arnynt, i ymweld a chefn gwlad a'i fwynhau yn ogystal ag ymarfer y corff neu hyd yn oed weithredu fel llwybr tarw defnyddiol i lefydd yn y gymuned leol.

Mae cyrifoldeb y cyngor o ran rheoli'r rhwydwaith hawliau tramwyr cyhoeddus yn rhannu rhwng y prif feysydd yma:

  • Gwarchod, cynnal a gwella'r llwybrau
  • Y map diffiniol cyfreithiol sy'n cofnodi lleoliad a statws y llwybrau
  • Hywyddo'r rhwydwaith llwybrau i hybu mynediad i gefn adloniant ac iechyd
  • Fforwm Mynediad Lleol Sir Ddinbych
Gwarchod, cynnal a gwella'r llwybrau

Mae'n cyfrifoldeb statudol dros yr Hawliau Tramwy Cyhoeddus hyn yn cynnwys:

  • Gosod arwyddion ar lwybrau troed a llwybrau ceffylau lle byddant yn gadael priffyrdd wedi'u metelu
  • Cynnal wyneb hawl tramwy i safon briodol i'r diben y denyddiwyd y briffordd yn draddodiadol
  • Cynnal pontydd dros gyrsiau afonydd naturiol
  • Darparu camfeydd a chlwydi am ddim i dirfeddianwyr fel rhan o'r dyletswyth i gyfrannu at gost cynnal camfeydd a chlwydi deffylau cydnabyddedig
  • Cadw llwybrau'n rhydd o'u rhwystro gan isdyfiant naturiol
  • Gweinyddu'r gyfraith berthnasol i hawliau tramwy ac, yn arbennig, sicrhau y gall y cyhoedd eu defnyddio.
  • Rhoi trwyddedau i dirfeddianwyr wella wyneb llwybrau, a tharfu ar neu gloddio trwy wyneb y llwybr neu osod camfeydd neu glwydi newydd ar draws llwybrau
  • Gwneud gorchmynion i ddargyfeilio neu gau hawliau tramwy cyhoeddus dros dro neu am byth
Beth ddylwn i wneud os na allaf ddefnyddio llwybr sy'n gyhoeddus hyd y gwn i?

Gallwch gyfeirio cwynion ynghylch cyflwr arwyneb llwybrau cyhoeddus neu broblemau a gewch ar eu hyd atom ni gan ddefnyddio'r maylion ar y ddolen gysylltu ar y dudalen hon neu drwy e bost.

Yn fuan gobeithiwn y bydd ffurflen y gallwch ei llenwi ar lein ei llwytho i lawr i hwyluso hysbysu probelm ar lwybr. Os byddwch yn meddwl bod y llwybr ar agor ond na fedrwch ei ddefnyddio oherwydd anabledd, rydym yn barod i weld beth allwn ei wneud. Fodd bynnag ar y tirfeddianwyr mae cyfrifoldeb cynnal a chadw camfeydd a bydd angen iddynt gyfranogi os yw gwelliant i'w wneud. Os ydych yn gallu defnyddio'r llwybr ond bod y camfeydd yn anodd i gi eu croesi, er bod y tirfeddianwyr yn gyfrifol am sicrhau nad yw camfeydd a chlwydi'n ymyrrud yn afresymol a hawl y cyhoedd, nid yw hynny'n golygu y gallwch dorri neu ddifrodi ffensys i ganiatau i'r ci fynd heibio camfeydd lletchwith. Mewn rhannau o'r Sir, lle mae llawer o ddefnyddio llwybrau a nifer sylweddol o ymwelwyr, rydym yn gweithio efo Wardeiniaid Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a thirfeddianwyr i ddarparu clwydi cwn sy'n ddiogel i dda byw wneud pethau'n haws i'r cwn. 

 Pwy sy'n gyfrifol am glirio sbwriel o lwybrau?

Os ydych wedi defnyddio llwybr yn ddiweddar a gweld mai'r broblem fwyaf oedd sbwriel, ceir wedi'i gadael neu faw cwn, allwn ni ddim delio a'r problemau arbennig yma. Maent yn fater i Adran Gwasanaethau Amgylcheddol y Cyngor sy'n cynnwys gwasanaethau rheoli gwastraff sydd a'r pwerau cyreithiol ac offer priodol.

Mae gennyf lwybr ar fy nhir - oes modd ei gau neu ei symud?

Gall unrhwy dirfeddianwyr wneud cais i'r cyngor am gael dargyfeirio neu gau llwybr lle gallent ddangos ei fod er lles rheoli'r tir yn dda. Fodd bynnag, mae'r broses yn amodol ar nifer o brofion i sicrhau nad yw'r rhwydwaith llwybrau yn cael ei dreulio o dipyn i beth trwy geisiadau diangen. Mae'n anodd iawn dileu llwybr gan fod yr ymgeisydd yn gorfod profi nad oes angen y llwybr mwyach. Os bydd llai na llond dwrn o bobl yn ei ddefnyddio'n achlysurol gall fod yn amhodibl profi hyn. Mae gwyriadau yn llai beichus ond, os yw'r gwyriad i fod yn llwyddiannus, mae'n gofyn bod y llwybr newydd yn cychwyn ac yn gorffen ar yr un priffyrdd a'r llwybr presennol. Rhaid i'r llwybr newydd hefyd fod mor fyr a hwylus a'r llwybr presennol. Mae ymgynghori helaeth a'r cyhoedd, gan gynnwys y cynghorau cymunedol lleol, cynghorwyr sir a grwpiau'n cynrychioli defnyddwyr llwybrau. Gall unrhyw aeold o'r cyhoedd wrthwynebu gorchymyn. Rhaid anfon gorchmynion a wrthwynebwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu penderfynu a gall ychwanegu cryn amser at y broses. Mae tal am y gorchmynion hyn a dim blaendal dychweladwy gyda cheisiadau. Os bydd gorchymyn yn llwyddianus fe all fod rhywfaint o gost ychwanegol am waith yn y maes cysylltiad a newid y llwybr. Cyn i'r broses ddechrau rydym yn hapus i drafod cynigion yn gyfrinachol gyda darpar ymgeiswyr. I gael rhagor o fanylion cofiwch gysyltu a'r Uned Hawliau Tramwy. 

All'i wneud gwaith ar lwybr?

Gallwch, er y bydd arnoch angen caniatad yn ol pob tebyg. Mae'n drosedd i gloddio neu darfu ar wyneb unrhyw briffordd, hyd yn oed os mai gwair sydd ar y wyneb. Yn ol y gyfraith mae llwybrau cyhoeddus yn briffyrdd. So ydych yn bwriadu cloddio i gladdu ceblau neu bibelli dan neu ar draws llwybr, mae'r gyfraith yn mynnu bod angen i'r cyngor hwn roi trwydded briodol. Mae tal am hyn ond, fodd bynnag, os daw'r awdurdod i wybod y gwnaed gwaith heb drwyded gall bwy bynnag sy'n gyfrifol wynebu dirwyon sylweddol. Os dymunwch wella wyneb llwybr ar eich lles eich hun bydd arnoch trwydded gan yr awdurdod priffyrdd. Nid yw hyn yn rhwystrol a, hyd y gellir gweld, bydd y trwyddedau yn aros byn ddi-dal. Cofiwch gysylltu a ni i gael rhagor o fanylion. Fodd bynnag, os oes gennych lwybr yn croesi gwair neu lawnt y bwyddwch am ei dorri, nid oes angen caniatad.

Oes angen i mi gale caniatad i wneud gwaith sydd angen cau llwybt er diogelwch cyhoedd?

Gallwn roi gorchymyn dros dro i chi gau'r llwybr, am hyd at chwech mis i ddechrau, os ydym yn fodlon fod diogelwch y cyhoedd yn y fanrol oherwydd gwaith ar bwys llwybr, fel cwympo coed, dymchwel neu adeiladu. Mae deddfwriaeth yn rheoli'r broses, sy'n gofyn bod cais yn cael ei wneud o leiaf chwech wythnos cyn fod angen cau. Os oes angen gwaith oherwydd argyfwng, mae modd rhoi canitad i gau ond am gyfnod llaswer byrrach. Mae deddfwriaeth yn rheoli'r broses hon ac ychydig o hyblygrwydd sydd gan cyngor o ran yr amserlen. Oherwydd bod hysbysebu'n y wasg yn rhan o'r broses, bydd y cyngor yn codi am y gorchmynion hyn. Er mai Undeb Gwaith Stryd y cyngor sy'n trin y gorchmynion hyn, dylech gysylltu a'r Uned Hawliau Tramwy i gael cyngor. Os bydd cyngor yn derbyn cwyn bod llwybr ar gau heb awdurdod y cyngor, a hynny'n cael ei gadarnhau, gallwn ddechrau achos cyfreithiol am rwystop yn anghyfreithlon.

Y map ddiffiniol cyreithiol sy'n cofnodi lleoliad a statws y llwybrau.

Y Map Ddiffiniol o Hawliau Tramwy Cyhoeddus a'r datganiad cysylltiedig yw'r cofnod cyfreithiol o'r rhwydwaith. Dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 roedd angen i bob sir yng Nghymru a Lloegr lunio MAP Ddiffiniol. Paratowyd y map cyfredol gan Gyngor Sir Clwyd yn 1978 a'i seilio ar fapiau ddiffindiol gwreiddiol yn dyddio'n ol i'r 1950au a baratodd Cynghorau Sir Ddinbych, Sir Fflint a Sir Feirionnydd oedd yn cwmpasu'r ardal bryd hynny.

Ein cyfrifoldebau statudol presennol yw:

Gweld bod y Map Ddiffiniol ar gael i'r cyhoedd ei archwilio yn y swyddfeydd y cyngor yn Ninbych yn ystod oriau swyddfa arferol

Diweddaru ac adolgu hawliau tramwy cyhoeddus yn barhaol ar y map ddiffiniol sef cofnod cyfreithiol swyddogol hawliau tramwy cyhoeddus.

Yr Uned Hawliau Tramwy sy'n cynnal copi syddogol y map a'r datganiad. Os ydych am weld y rhwydwaith hawliau tramwy, eisiau gwybodaeth neu os dowch ar draws problem, cofiwch gysylltu a'r uned fydd yn barod iawn i helpu. Os gallwch, ffoniwch cyn ymweld, i sicrhau bod cyngor a chymorth priodol ar gael.

Chwiliadau

Bydd yr uned hefyd yn cynorthwyo gyda darparu gwybodaeth ar gyfer chwiliadau pridiannau tir lleol. Fel arfer bydd ymholiadau'n cael eu gwneud trwy swyddfa Pridiannau Tir Adran y Gyfraith, a byddwn yn ymdrechu i ateb yr ymholiadau hyn o fewn pedwar diwrnod gwaith. Os byddwch yn gwenud cais uniongyrchol o'r Uned Hawliau Tramwy dylech wneud hynny'n ysgrifenedig a byddwn yn ateb o fewn 25 diwrnod gwaith a bydd ffi ar wahan. Fodd bynnag gallwch wneud archwiliad personol o'r map a'r datganiad yn ystod oriau swyddfa yn ddi-dal ond na fydd staff ar gael yn aml i roi unrhyw gymorth gyda dehongli'r map.

 Ydi'r map yn gallu bod yn anghywir?

 Mae map diffiniol wedi'i warchod yn y gyfraith, trwy Ddeddf Seneddol sy'n datgan ei bod yn bendant bod y lwybrau sy'n cael eu dangos yn bodoli ar "Ddyddiad Perthnasol" y map. Mae hyn yn golygu os yw llwybr yn cael ei ddangos ar y map fel hawl tramwy cyhoeddus ei fod yn hawl tramwy cyhoeddus waeth beth fydd hanes lleol neu wybodaeth bersonolyn ei ddweud am hynny. Dylid sylwi na fydd y map yn cael ei ddiweddaru'n aml ac y gall trefny cyfreithiol fel gorchymun dargyfeilio neu ddileu llwybr ddigwydd.Lle gwnaed gorchymyn cyfreithiol ffurfiol fel hyn ni fydd y map diffiniol yn newid tan y tro nesaf y bydd y map yn cael ei ddiweddaru pryd y caiff ei gywiro i ddangos effaith y gorchymyn cyfreithiol. Pan fyddwch yn defnyddio llwybrau cyhoeddus mae’n werth ystyried bod â map diweddaraf yr Arolwg Ordnans efo chi bob amser. Bydd pob gorchymyn cyfreithiol a wnawn yn cael ei gyflwyno i’r Arolwg Ordnans sy’n ailargraffu eu mapiau hamdden eu hunain yn amlach na fyddwn ni’n newid y copi cyfreithiol ac, felly, bydd yn fwy diweddar dan y fath amgylchiadau

Fodd bynnag, bydd adegau pan fydd y farn bod y map yn anghywir a’r llwybr yn mynd i gyfeiriad gwahanol, bod ei statws yn wahanol neu ei fod ar goll neu na ddylid ei ddangos. Mae trefn ar gyfer gwneud sialens gyfreithiol i gael newid y map. Nes bydd gorchymyn o’r fath yn cael ei wneud ac yn llwyddo i herio’r map, bydd y map diffiniol yn aros fel y gair olaf. Nid oes unrhyw dâl uniongyrchol am geisio neu wneud gorchymyn i herio’r map. Fodd bynnag, mae’n broses eithaf hir sy’n agored i lawer o archwiliad cyhoeddus ac yn gofyn am dystiolaeth ddigonol i fodloni’r prawf cyfreithiol a bennwyd yn ôl y gyfraith i her fod yn llwyddiannus. Nid oes modd ad-dalu unrhyw gostau i chi yn y broses hon. I gael rhagor o wybodaeth os credwch fod llwybr wedi cael ei gofnodi’n anghywir ar y map, cofiwch gysylltu â’r Uned Hawliau Tramwy.

Oes modd i lwybrau gael eu colli os na chânt eu defnyddio?

Ar hyn o bryd mae’r gyfraith yn hollol bendant, os yw llwybr yn gyhoeddus, nad oes unrhyw gyfnod sy’n rhaid iddo fod mewn defnydd i gadw ei statws cyhoeddus. Mae hanes hir i’r egwyddor gyfreithiol hon a bu’r gyfraith yn hollol gadarn na all diffyg defnyddio beri colli hawl tramwy cyhoeddus. Nid dyma fel y mae gyda hawliau mynediad preifat.

Oes modd creu hawl tramwy dros dir preifat?

Mae bron bob Hawl Tramwy Cyhoeddus yn croesi tir preifat. Gall tirfeddianwyr ddewis cyflwyno hawl tramwy i’r cyhoedd ar draws eu tir. Unwaith iddi gael ei chyflwyno’n ffurfiol nid oes modd dileu hawl cyhoeddus heb orchymyn cyfreithiol. Yn ogystal, os caiff llwybr ei greu ar draws tir preifat heb yn wybod i’r tirfeddiannwr ac yna’i ddefnyddio gan y cyhoedd heb ganiatâd, cyfrinachedd, na grym am 20 mlynedd heb i’r tirfeddiannwr ei herio gall hyn greu hawl tramwy cyhoeddus. Os nad yw perchennog tir yn herio defnydd fel hyn cyn i’r 20 mlynedd ddod i ben fe all wedyn gael ei gofnodi fel llwybr cyhoeddus ar y Map Diffiniol. Fodd bynnag mae Adran 31(6) Deddf Priffyrdd 1980 yn caniatáu i dirfeddianwyr wneud datganiadau i’r cyngor ar ba hawliau tramwy cyhoeddus sy’n croesi eu tir. Rhaid ailadrodd y datganiadau hyn bob chwe blynedd ond gallant amddiffyn y tirfeddiannwr rhag cais i greu unrhyw hawl tramwy ar hyd llwybr tra bo’r datganiad mewn grym. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch llwybrau fel hyn neu os ydych am wneud datganiad ynghylch hawliau ar draws tir, cofiwch gysylltu â’r Uned Hawliau Tramwy.

Beth yw “Llwybrau Coll”?

Caiff y term hwn ei ddefnyddio i ddisgrifio llwybrau oedd yn gyhoeddus ac yn cael eu defnyddio’n rheolaidd ers talwm ond oedd wedi mynd bron yn ddiddefnydd yn y 1950au pan ddarparodd y Cynghorau Plwyf y mapiau diffiniol cyntaf i’r Cynghorau Sir. Yn aml roeddent yn hen ffyrdd neu lwybrau ceffylau pwysig ddaeth yn ddiangen ar ryw adeg oherwydd newidiadau demograffig neu oherwydd gwella llwybrau eraill yn y cylch, gan roi gwell dewis. Weithiau cofnodwyd bodolaeth y llwybrau hyn mewn dogfennau cyfreithiol hanesyddol ac, oherwydd bod y gyfraith yn datgan nad oes modd colli priffordd trwy ddiffyg defnydd, mae modd eu hychwanegu eto at y map diffiniol pan ddaw’r dystiolaeth hon i olau dydd. Nid yw hyn yn ystyried beth yw defnydd y tir mae’r llwybrau hyn yn eu croesi erbyn hyn. Yn Neddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, cyflwynodd y Llywodraeth ddeddfwriaeth i roi pen ar yr arfer hwn. Fodd bynnag dywedwyd wrth y Cynghorau Sir ac Awdurdodau Unedol yng Nghymru a Lloegr fod raid iddynt geisio nodi a gwneud cofnod o’r llwybrau cyfreithiol angof hyn, sy’n gallu dal i ddod i’r amlwg mewn hen gofnodion, erbyn 2026 pan ddaw’r ddeddf newydd hon i rym.

Hyrwyddo’r rhwydwaith llwybrau i hybu mynediad i gefn gwlad er mwyn adloniant ac iechyd
Bendithiwyd Sir Ddinbych ag amrywiaeth mawr o gefn gwlad. Mae pob math o gyfle i’r ymwelydd lleol, dros benwythnos neu am gyfnod hwy edrych ar wahanol dirwedd, o dwyni’r arfordir i fynyddoedd uchel. Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn rhedeg hyd y Sir, i’w ben ym Mhrestatyn. Mae Bryniau Clwyd, un o ddim ond pump ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’ [AHNE] a ddynodwyd yn swyddogol yng Nghymru, yn boblogaidd iawn ac mae nifer o arweinlyfrau i’r cylch. Yn Nyffryn Dyfrdwy mae tref eisteddfod fyd-enwog Llangollen fel porth i gefn gwlad de Sir Ddinbych a mynydd ysblennydd y Berwyn. Ar wahân i’r lliaws o ddewisiadau i bob math o ddefnyddwyr ddewis eu llwybrau eu hunain, mae arweiniad beicio rhagorol ‘Beicio Bryniau Clwyd’ sy’n darparu llwybrau ar gyfer beicwyr mynydd o bob gallu ar hawliau tramwy sydd ar agor yn gyfreithlon i feicwyr ar Fryniau Clwyd.

Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor, ym Mharc Gwledig Loggerheads, sy’n hyrwyddo llwybrau. Mae Canolfan Cefn Gwlad yno’n dal llawer o arweinlyfrau i droeon lleol a mapiau o’r ardal. Mae’r Ganolfan ar yr A494 hanner ffordd rhwng Rhuthun a’r Wyddgrug a rhif ffôn y ganolfan ymwelwyr yw 01352 810586.

Fforwm Mynediad Lleol Sir Ddinbych

Dan Ddeddf Cefn Gwlad a Mynediad i Gefn Gwlad 2000 mae gofyn i’r sir sefydlu fforwm yn ei ardal lle gall y rhai â diddordeb mewn hyrwyddo a datblygu mynediad i gefn gwlad gyfarfod a rhoi cyngor a chyfarwyddyd i’r awdurdod. Ar y dechrau bydd aelodaeth trwy benodiad gan y Cyngor Sir ond, yn y dyfodol, bydd y fforwm yn penodi ei aelodau ei hun. I gael rhagor o wybodaeth am y Fforwm Mynediad Lleol dilynwch y ddolen hon

Cofrestrau Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Mae'r Cofrestrau hyn yn rhagnodi cynnwys yr wybodaeth sy'n ymwneud â cheisiadau, mynegiadau a dogfennau cysylltiedig o ran hawliau tramwy cyhoeddus ac sydd i'w chadw, a'r ffordd y mae'r wybodaeth honno i'w chadw, ar gofrestrau a sefydlir ac a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru.
Bydd y cofrestrau yn cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â cheisiadau a wnaed, a mynegiadau a gyflwynwyd, i'r awdurdod lleol sy'n gyfrifol dros hawliau tramwy cyhoeddus yn yr ardal o dan sylw, ac yn cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â dogfennau a adneuwyd gyda'r awdurdod hwnnw.
Diben y cofrestrau yw cynyddu gwybodaeth ymhlith perchenogion tir a'r cyhoedd am faterion a allai arwain at newidiadau i'r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus; osgoi dyblygu pan fo mwy nag un person efallai yn ystyried gwneud cais i awdurdod lleol am yr un newid i'r map diffiniol a'r datganiad; cynyddu sicrwydd ynghylch pa lwybrau neu ffyrdd y mae perchenogion tir yn bwriadu eu cyflwyno fel hawliau tramwy cyhoeddus; a chynorthwyo awdurdodau lleol i reoli eu swyddogaethau o ran hawliau tramwy

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0