BWS NOS SIR DDINBYCH
Mae hwn yn wasanaeth cludiant gyda’r nos i bobl hŷn, sy’n gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn, ac mae’n gynllun sydd wedi ennill gwobrau. Mae’n cael ei gynnal a’i ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych, mewn cydweithrediad gyda’r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn.
Cynigir y gwasanaeth Bws Nos i bobl hŷn na allant ddefnyddio cludiant cyhoeddus, i’r rhai sydd â nam corfforol neu synhwyraidd o unrhyw fath, i’r rhai sy’n agored i niwed neu’n arunig ac i’r rhai sy’n ofni trosedd. Mae’r cerbyd yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn er hwylustod i’r anabl. Gall gofalwyr ddod gyda defnyddwyr y gwasanaeth os oes angen.
Cynllun nid er elw yw hwn felly mae’r prisiau yn isel – dim ond £2.00 am bob taith ddwyffordd.
Gellir defnyddio’r gwasanaeth hwn ar gyfer ymweld â chleifion yn yr Ysbyty Gymuned, mynd i ddosbarthiadau nos a dosbarthiadau hamdden, digwyddiadau/sioeau yn y theatr neu neuadd y dref, ymweld â ffrindiau/teulu, a gweithgareddau cymdeithasol ac ati.
Mae’r gwasanaeth yn gweithredu bob nos Iau a nos Wener o 6:00pm tan 10:00pm yng ngogledd Sir Ddinbych(Prestatyn, Rhuddlan, Bodelwyddan, Dyserth, Y Rhyl, Gallt Melyd a Llanelwy).
Rhaid bwcio eich taith ymlaen llaw
ffoniwch y Swyddfa Wennol
0845 603 6030
(codir tâl cyfradd lleol wrth ddefnyddio llinell ffôn BT)
Atebir galwadau rhwng 9.30am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
Bwcio ar sail ‘y cyntaf i’r felin…’
Bydd y swyddogion bwcio yn ceisio diwallu anghenion defnyddwyr bob tro.
----------------------------------------------------
A fedrwch chi, neu unrhyw un rydych chi’n ei adnabod, helpu?
A fedrwch chi dreulio ychydig o oriau bob mis yn helpu pobl hŷn yn eich cymuned?
A ydych chi’n medru gyrru?
Os medrwch ateb ‘Medraf’ i unrhyw un o’r cwestiynau uchod, yna hoffai Bws Nos Sir Ddinbych glywed gennych chi!
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr o bob oed i fod yn Yrwyr ac yn Gyfeillion Gyrwyr yn y prosiect arloesol hwn sy’n darparu gwasanaeth y mae cryn alw amdano gan bobl hŷn sy’n agored i niwed a’r rhai sy’n arunig.
Fel gwirfoddolwr a werthfawrogir yn fawr, byddwch:
• Yn cael eich hyfforddi i yrru’r bws mini (os ydych yn gwirfoddoli

Rhoi adborth ar y tudalen hon