| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Enwi a Rhifo Strydoedd
Cyllid a Pherfformiad

Enwi a Rhifo Strydoedd


Datblygu stryd neu stad newydd – sut y caiff eiddo eu rhifo?


Os ydych yn datblygu stryd neu stad newydd dylech gysylltu â nhw cyn gynted â phosib wrth ddechrau ar waith ar y safle er mwyn i ni allu dechrau prosesu enwau strydoedd neu rifau strydoedd heb oedi. Byddwch angen rhoi'r wybodaeth ganlynol i ni :


(i) cynllun lleoliad
(ii) cynllun lleoliad safle i ddangos rhifau'r plot
(iii) o leiaf un awgrym am enw stryd, naill ai yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

Datblygu eiddo sengl / datblygiad tirlenwi bach - sut y rhifir yr eiddo?


Os ydych yn datblygu eiddo newydd (annedd sengl neu ddatblygiad bach), dylech lenwi ffurflen Enwi Datblygiadau bach cyn gynted â phosib. Ar ôl cytuno ar y cyfeiriad, anfonir y wybodaeth at y gwasanaethau argyfwng, Cofrestr Tir, Y Post Brenhinol a gwasanaethau perthnasol eraill o fewn Sir Ddinbych. Anfonir copi atoch hefyd o'r cyfeiriad cofrestredig a gofynnir i chi  roi gwybod i'r bobl sy'n prynu eiddo beth yw eu cyfeiriad newydd.

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0