| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Adnewyddu Tai - Beth rydym yn ei wneud
worker in hat

Beth rydym yn ei wneud?
Rydym yn gweinyddu ystod o Grantiau Gwella Tai i wella amodau byw i'r rhai sy'n byw mewn tai sector preifat yn Sir Ddinbych sydd naill ai'n anaddas i bobl fyw ynddynt neu'n anaddas i'w hanghenion oherwydd anabledd neu salwch difrifol.

Mae pump math o grantiau a'r gael sef Cyfleusterau i Bobl Anabl, Atgyweiriadau Argyfwng, Cymorth gyda Mân Atgyfeiriadau, Tai Amlfeddiannaeth ac Ardaloedd Adnewyddu (ardaloedd penodol yn y Rhyl a Dinbych yn unig). Mae meini prawf ynghlwm â phob math o grant, a rhaid bodoli'r rhain fel y nodir ym Mholisi Adnewyddu Tai y cyngor 2003. Rhaid i'r ymgeisydd fodloni'r meini prawf cyn bod yn gymwys i wneud cais am grant benodol.

Mae'r holl grantiau yn amodol ar yr adnoddau sydd ar gael. Mae polisi adnewyddu tai Cyngor Sir Ddinbych yn cael ei adolygu yn 2007.

Rydym yn gweinyddu grantiau ar gyfer amrywiol brojectau yn yr Ardaloedd Adnewyddu (Y Rhyl a Dinbych) gan gynnwys gwelliannau i dai; busnesau a phrojectau amgylcheddol / cymunedol. Mae'r holl grantiau'n amodol ar yr adnoddau sydd ar gael.

Rydym yn darparu gwasanaeth asiantaeth i ymgeiswyr ac yn eu helpu gyda thasgau megis cwblhau ffurflenni cais, cyngor ar brawf moddion, paratoi atodlen a gwaith (gyda darluniau os oes angen), cael caniatâd Rheoliadau Adeiladau a Chynllunio, darparu dyfynbrisiau o Restr o Gontractwyr Cymeradwy, trefnu dyddiadau cychwyn, arolygu'r gwaith hyd ei gwblhad, taliadau ar gyfer y gwaith (a ellir ei dalu'n uniongyrchol i'r contractwyr). 
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ar House Proud


Rydym hefyd yn hwyluso ystod o fenthyciadau gwella cartref a chyfarwyddyd ar atgyweirio tai i rai nad ydynt yn gymwys i dderbyn grant neu a hoffai dalu am y gwaith o'u cynilion eu hunain. Gellir darparu gwasanaeth i brynu ac arolygu contractau gan ddefnyddio adeiladwyr gydag enw da, gan gynnig tawelwch meddwl i'r henoed a rhai hawdd eu niweidio.

Mae'r drefn yn wahanol ar gyfer grantiau Ardal Adnewyddu, gan fod y Cyngor yn cysylltu gyda pherchnogion eiddo o fewn ffiniau Ardal Adnewyddu i'w gwahodd i ymuno â chynllun i uwchraddio eu heiddo. Mae'r trefniadau cynllunio, dylunio a'r contract yn cael eu gwneud gan y Cyngor ar ran perchnogion yr eiddo.

Rydym yn gyfrifol am hybu Deddf Cadwraeth Ynni Cartref ar gyfer eiddo domestig i wella effeithiolrwydd ynni a lleihau allyriant deuocsid carbon. Rydym yn ceisio hybu ymwybyddiaeth effeithiolrwydd ynni i drigolion trwy gyfrwng ein partneriaeth gyda'r Ymddiriedolaeth Cynilion Ynni. Rydym hefyd yn hybu cymorth ar gyfer mesurau insiwleiddio’r cartref mewn cynllun partneriaeth gyda cyflenwr yni mawr a'r Cynllun Effeithiolrwydd Ynni Cartref a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.


 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0