| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Cwestiynau y Gofynnir yn Aml

Ateb rhai o'ch cwestiynau

A oes angen i'm heiddo fod o oedran penodol cyn fedraf wneud cais am grant?
Na. Nid oes cyfyngiad oedran ar gyfer eiddo, ond yn achos grant adfer rhaid i eiddo fod yn 10 oed o leiaf.

A fyddai'n rhaid i mi ad-dalu unrhyw arian grant pe byddwn yn gwerthu’r eiddo?
Byddai – yn dibynnu ar y math o grant. Mae'r rheolau'n amrywio ond buasech yn derbyn manylion amodau grant yn esbonio hyn.

Faint o grant fydd gennyf hawl iddi?
Mae pob grant yn destun prawf moddion ar yr ymgeiswyr.

A wyf yn debygol o fod mewn Ardal Adnewyddu?
Mae'r ardaloedd presennol wedi eu lleoli yn Ne-orllewin/Dwyrain y Rhyl a Dinbych. Byddai'r gwaith yn delio gyda thu allan yr adeilad yn unig; byddai 75% o gost y gwaith yn derbyn cymorth grant a'r 25% arall yn destun prawf moddion.

A fedraf dderbyn grant tuag at insiwleiddio fy nghartref?
Yn gyffredinol, yr henoed/pobl anabl sy'n derbyn budd-daliadau sy'n gymwys i dderbyn y math hwn o grant. Nid yw'n cael ei hariannu gan y Cyngor, ond medrwn anfon eich cais ymlaen i asiantaethau eraill.

A oes grantiau ar gael ar gyfer gwres canolog?
Mae Cynllun Effeithiolrwydd Ynni Cartref y llywodraeth yn darparu grantiau i ddeiliaid tai sy'n bodoli meini prawf penodol. Bydd angen i chi ffonio 0800 512012 am gyngor pellach.

 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0