| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Recriwtio

Diolch am ddarllen ein tudalennau ar y we i ddysgu mwy am ein swyddi gweigion yng Nghyngor Sir Ddinbych. Rydym yn gobeithio bod y wybodaeth ar y tudalennau hyn yn eich helpu i ganfod mwy am ein Sir a’n Cyngor, ac yn eich annog i wneud cais am swydd wag sy’n addas i’ch sgiliau a’ch uchelgeisiau chi.

Os cewch eich penodi, byddwch yn ymuno ag un o nifer o dimau o fewn y Cyngor sy’n gyrru’r gyfundrefn ymlaen a sicrhau ein bod yn cyflwyno’n gwasanaethau yn y dull gorau posibl i bobl Sir Ddinbych. Ar ôl ymgynghori gyda’r trigolion mae’r Cyngor wedi cynhyrchu eu Gweledigaeth i weithio tuag at well dyfodol ar gyfer holl bobl Sir Ddinbych. Rydym yn falch o’n cefn gwlad yn Sir Ddinbych a’r safleoedd treftadaeth hynod, sy’n cynnwys llawer o’r rhai gorau ym Mhrydain, wedi eu lleoli mewn ardal sy’n falch o’i diwylliant Cymraeg a’r iaith Gymraeg. I ddysgu mwy am ein Sir, ewch i’r dudalen Ynglŷn â Sir Ddinbych sy’n dwyn ynghyd lawer o gyfleusterau sydd ar gael yn y Sir.


Mae’r Cyngor yn cyhoeddi papur newydd 12 gwaith y flwyddyn, a ddosberthir i holl drigolion Sir Ddinbych. Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn darllen ôl-rifynnau - Llais y Sir - Papur Newydd y Cyngor. Dyma’r prif gyfrwng a ddefnyddiwn i hysbysebu holl swyddi yn y Sir, ynghyd â’r Dudalen Swyddi Gweigion ar wefan y Cyngor sy’n cael ei diweddaru trwy’r amser.

Os ydych yn penderfynu gwneud cais am un o’r swyddi, efallai y byddai o ddiddordeb i chi ddarllen am y manteision i staff, rhai ohonynt a restrir ar y tudalennau cyswllt. Rydym yn cynnig amrywiol wasanaethau i’r cyhoedd ac felly mae gennym swyddi ar gael. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu am Yrfaoedd mewn llywodraeth leol, ewch i’r cyswllt hwn: Gyrfaoedd mewn Llywodraeth Leol. Rydym yn cefnogi’r Cynllun Graddedigion Cenedlaethol, rydym yn rhedeg Cynllun Prentisiaeth Fodern, mae gennym Grŵp Pobl Ifanc ac rydym yn trefnu Cyfleoedd Profiad Gwaith ledled yr awdurdod.

Gobeithio bod y wybodaeth hon wedi bod yn ddefnyddiol i chi ac wedi eich annog i wneud cais am swydd o fewn y Cyngor, ac edrychwn ymlaen at dderbyn eich ffurflen gais.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0