| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Amddiffyn Oedolion Bregus

Bwriad y wybodaeth hon yw helpu unrhyw berson sy’n poeni bod oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.  Neu efallai mai’r person ei hun sy’n cael ei gam-drin.


Mae’r daflen yn dweud beth yw camdriniaeth, beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl bod camdriniaeth wedi digwydd a sut y bydd eich pryderon yn cael eu trin a’u trafod. 

Mae’n dweud hefyd sut mae asiantaethau yng Ngogledd Cymru yn gweithio ar y cyd er mwyn mynd i’r afael â chamdriniaeth.  Maent hefyd yn sicrhau y bydd unrhyw achosion camdriniaeth, y dônt hwy i wybod amdanynt, yn cael eu cymryd o ddifrif ac y bydd y bobl iawn yn eu trin a’u trafod.


Pwy sy’n Oedolyn Bregus?
Pobl dros ddeunaw oed na allant, oherwydd anabledd, oedran neu salwch, amddiffyn eu hunain rhag niwed neu rhag pobl sydd am gymryd mantais annheg ohonynt.


Beth yw Camdriniaeth?
Mae Oedolyn Bregus yn gallu cael ei gamdrin, niweidio neu ofidio mewn nifer o ffyrdd.  Camdriniaeth bendant yw rhai ohonynt, ond mae rhai eraill yn llai amlwg. 

Camdriniaeth Gorfforol - Mae’n cynnwys taro, slapio, gorddefnyddio neu gamddefnyddio meddyginiaeth, atal yn ormodol neu gosbau amhriodol.


Camdriniaeth Rywiol - Mae’n cynnwys trais ac ymosodiad rhywiol neu weithredoedd rhywiol nad yw neu na allai’r oedolyn bregus gydsynio i’w gwneud a/neu y pwyswyd arno/arni i gydsynio.


Camdriniaeth Seicolegol - Mae’n cynnwys bygythiadau o niwed neu gael ei adael ar ei ben ei hun, cael ei iselhau, camdriniaeth lafar neu rywiol, unigedd neu dynnu’n ôl wasanaethau neu gefnogaeth.


Camdriniaeth Ariannol neu Faterol - Mae’n cynnwys lladrad, twyll, pwysau mewn perthynas ag ewyllysiau, camddefnyddio eiddo neu etifeddiaeth neu gymryd budddaliadau yn anonest.


Esgeuluso - Mae’n cynnwys methu cael mynediad at ofal neu wasanaethau meddygol, peidio hidio am beryglon, peidio â rhoi meddyginiaeth benodedig, maethiad gwael neu ddiffyg gwres. 

Camdriniaeth wedi’i Hysgogi gan Hiliaeth - Gall fod ar unrhyw un o’r ffurfiau uchod.


Camdriniaeth gan Ddieithriaid - Fe all oedolyn bregus gael ei gam-drin gan berson nad yw ef/hi yn ei adnabod, fel dieithryn, un o’r cyhoedd neu berson sy’n targedu pobl fregus yn fwriadol er mwyn cymryd mantais annheg ohonynt.
 

Ble mae Camdriniaeth yn digwydd?
Gall camdriniaeth ddigwydd yn unrhyw le, fel: 

  •  Eich cartref eich hun 
  •  Ysbytai 
  •  Cartrefi Gofal 
  •  Canolfannau Dydd 
  •  Colegau 
  •  Tai Cynaledig 
  •  Un y gwaith 
  •  Neu hyd yn oed yn gyhoeddus.

Pwy yw’r Camdrinwyr hyn?
 

Yn aml bydd yr oedolyn bregus yn adnabod y person sy’n gyfrifol am y gamdriniaeth, a gall y camdriniwr fod yn unrhyw berson, fel:

  • Gwirfoddolwr 
  • Gweithiwr Iechyd neu Ofal Cymdeithasol 
  • Perthynas, ffrind neu gymydog 
  • Preswyliwr neu ddefnyddiwr gwasanaeth arall 
  • Ymwelydd achlysurol neu rywun sy’n darparu gwasanaeth 
  • Person sy’n cymryd mantais annheg, yn fwriadol, o bobl fregus.
     

Os wyf i’n meddwl bod camdriniaeth yn digwydd, neu fy mod yn cael fy ngham-drin fy hun - beth wedyn? 

Gallwch gysylltu â’ch Adran Gwasanaethau Cymdeithasol leol neu gallwch ffonio’r Heddlu’n syth os ydych chi’n meddwl bod trosedd wedi’i chyflawni.  Yna fe wnawn yn siwr bod y bobl iawn yn cynnal ymchwiliad i’r gamdriniaeth ac yn sicrhau bod yr oedolyn bregus yn ddiogel. 

Os na allwch chi’ch hun roi gwybod i rywun am y pryderon hyn, gallwch ofyn i berson yr ydych chi’n ymddiried ynddo/ynddi wneud hynny ar eich rhan.  Gallai’r person hwn fod yn weithiwr proffesiynol fel eich Meddyg Teulu neu nyrs, un o’r teulu, cymydog ac ati.
 

Pa un a ydych chi’n cysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol neu unrhyw un o’r asiantaethau, bydd eich pryderon yn cael eu trin a’u trafod mewn modd sensitif a phroffesiynol. 

Beth sy’n digwydd nesaf?
Pan fyddwch chi’n cysylltu â’ch adran Gwasanaethau Cymdeithasol Leol (mae’r rhifau cyswllt i’w gweld ar ddiwedd) neu unrhyw un o’r asiantaethau, fe ofynnir ichi roi enw a chyfeiriad yr Oedolyn Bregus.  Gofynnir ichi ddisgrifio’r pryderon sydd gennych ac a yw’r Oedolyn Bregus yn gwybod eich bod wedi cysylltu â rhywun.


Yna bydd gweithiwr proffesiynol cymwysedig, profiadol, neu dîm o weithwyr proffesiynol, yn cynnal ymchwiliad i’ch pryderon, gan gymryd i ystyriaeth ddymuniadau a dewis yr Oedolyn Bregus.  Bydd ef/hi yn ceisio sicrhau bod yr oedolyn bregus yn cael ei amddiffyn a’i fod ef/hi yn cael unrhyw ofal meddygol neu ofal arall y bydd arno/arni ei angen. 

Cewch wybod, yn ysgrifenedig, pa gamau gweithredu a gymerwyd ynghylch pryder sydd gennych.

Rhifau Cyswllt

Tim cyswllt cyntaf - 01824 712800

Rhif y tu allan i oriau swyddfa - 0845 05 33 116

Heddlu - 01492 511810 / 517171

neu - 999

Mae’r wybodaeth hon ar gael mewn print bras; mewn Braille ac ar dâp sain gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gais.


 

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0