Hen Pobl
Pa Fath o Help sydd Ar Gael?
Fe all y Gwasanaethau Cymdeithasol ddarparu amrywiaeth o gymorth i bobl dros 65 oed a’u gofalwyr. Mae’r help sydd ar gael yn cynnwys:
- Help a Chyngor gyda Gorchwylion Ymarferol - Mae hyn yn cynnwys gofal personol, e.e., help i godi a gwisgo amdanoch a help gyda phrydau, golchi, ayyb.
- Cyfarpar i Wneud Bywyd yn Haws - Gall Therapyddion Galwedigaethol roi cyngor ar drefnu eich gweithgareddau bob dydd i’w gwneud hi’n haws ichi ddod i ben. Efallai y byddwn yn gallu darparu cyfarpar anabledd hefyd.
- Addasiadau i’ch Cartref - Efallai y byddwn yn gallu trefnu addasiadau i’ch cartref neu’ch rhoi mewn cysylltiad â rhywun arall a fydd yn gallu helpu. Neu, efallai y gallwn roi cymorth ichi wrth edrych am rywle mwy addas i fyw.
- Help gyda Phroblemau Golwg neu Glyw - Gall Gweithwyr Cymdeithasol roi cyngor os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw neu os ydych yn ddall neu’n wan eich golwg.
- Egwyl neu Amser i Ffwrdd o Gartref - Mae amrywiaeth o ofal y byddwn, o bosib, yn gallu ei gynnig ichi naill ai gartref neu oddi gartref, fel bod modd i chi neu’r sawl sy’n gofalu amdanoch gael egwyl am ddiwrnod neu fwy. Mae gofal dydd yn un enghraifft. Mae arhosiad byr mewn cartref gofal yn un arall.
- Gofal Cartref Preswyl neu Gartref Nyrsio - Efallai eich bod yn teimlo na ellwch ddod i ben gartref ac y byddech yn hoffi byw’n barhaol mewn cartref gofal. Os felly, fe’ch cynghorir chi’n gryf i gysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol, a fydd yn cynnig gwybodaeth ichi ac, os yn briodol, yn asesu’ch anghenion ac yn trafod eich dymuniadau efo chi.
Ymghynhoriad Cyhoeddus
Mae Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Lleol Cyngor Sir Ddinbych wedi drafftio Cyd Strategaeth Gomisiynu i Bobl Hŷn, sy'n amlinellu cynlluniau sut all y ddau fudiad weithio ynghyd er budd Pobl Hŷn y sir. Mae y dogfen yma wedi bod ar agor i ymghynhoriad cyhoeddus. Mae o wedi cae rwan ond mae o dal i gweld ir isod.


Rhoi adborth ar y tudalen hon