| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Tir Comin - Chwiliadau

Gwaith staff yr adran Chwiliadau Tir Comin yw ymchwilio’r Gofrestr Tiroedd Comin.

Y ffurflen swyddogol ar gyfer chwiliadau o’r fath yw CON29 Rhan 2 – fe’i cewch o swyddfa cyfreithiwr fel arfer. Gallwn hefyd drin ceisiadau electronig drwy’r system NLlS. Os hoffech ragor o wybodaeth am hynny cliciwch  ar y linc.

Ceisiwn anfon y canlyniadau cyn pen 10 diwrnod ar ôl cael eich cais, ond mewn gwirionedd byddwn yn eu hanfon atoch cyn pen pum diwrnod gwaith.

Diben chwiliad tir comin yw datgelu a yw darn o dir, neu eiddo (y cyfan neu ran ohono) wedi’i gynnwys ar y Gofrestr Tiroedd Comin a gedwir gan y Cyngor Sir yn ôl Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965. Os ydyw, bydd canlyniad yr ymchwiliad yn dangos a oes hawliau comin yn effeithio arno, a yw rhywun wedi cofrestru perchnogaeth o’r tir/eiddo, neu a yw wedi ei gofrestru yn ôl y Deddfau Cofrestru Tir.

Bydd swyddogion yr adran hefyd yn ateb ymholiadau cyffredinol, ac yn ymdrin â’r cyhoedd sy’n dod i Neuadd y Sir i edrych ar y mapiau a’r Gofrestr Tiroedd Comin. Mae’n rhaid trefnu apwyntiad, ond nid oes raid talu am y gwasanaeth hwnnw. Mae’n rhaid talu am gopïau o’r Gofrestr. 

Rydym yn gallu derbyn a gyrru chwiliadau electronig drwy'r system NLIS. Os hoffech ragor o wybodaeth edrychwch ar y Cyswllt Allanol ar y chwith i'r tudalen yma.

Os hoffech wneud ymholiadau am berchenogaeth tir yn Sir y Dinbych cysylltwch â’r Gofrestrfa Tir yn Abertawe neu edrychwch ar y Cyswllt Allanol ar y chwith i'r tudalen yma.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0