Mae’r tim yn cynnwys staff proffesiynol megis Gweithwyr Cymdeithasol, Therapyddion Galwedigaethol, Seicolegwyr a Gweithwyr Cynnal. Maent yn rhoi cyngor a chymorth i bobl sy’n dioddef o salwch meddwl ac i’w teuluoedd.
Hefyd mae Gweithwyr Cymdeithasol o fewn y timau yn gyfrifol am wneud dyletswyddau sydd eu hangen o dan Ddeddf Salwch Meddwl 1983. Er enghraifft bydd angen asesu pobl sydd a salwch meddwl gan Weithiwr Cymdeithasol a gan Ddoctor os ydynt yn cael anhawster ymdopi. Ar rai achlysuron bydd angen mynd i uned arbenigol o fewn Ysbyby Glan Clwyd.
Hefyd cynghori a rhoi cymorth ar wahanol faterion. Gall y timau Gweithwyr Cymdeithasol drefnu nifer o wasanaethau eraill i helpu pobl. Er enghraifft gall rhai pobl gael budd o fynd i Ganolfan Dydd. Gall hyn fod o gymorth i bobl sy’n byw ar eu pen eu hunain a allai gael budd o gael mwy o gyswllt gyda phobl eraill. Bydd staff yn y Canolfannau yn trefnu gwahanol weithgareddau ond nid yw cymryd rhan ynddynt yn orfodol o gwbl.
I nifer fawr o bobl sy’n dioddef salwch meddwl, nod y Gweithiwr Cymdeithasol o fewn y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol yw cynnal pobl o fewn eu cymunedau eu hunain a’u galluogi i fod mor annibynnol â phosibl.
Weithiau bydd pobl gyda salwch meddwl angen cael cymorth neu gyngor ar frys tu allan i oriau swyddfa. O dan yr amgylchiadau hyn gellir cysylltu â Gwasanaeth Gweithiwr Cymdeithasol Dyletswydd Argyfwng Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych ar 0845 05 33 116.
Lleolir Timau Iechyd Meddwl Sir Ddinbych yn y lleoliadau canlynol :-
Hafod
Ffordd Beechwood
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 3EU
Ffon: 01745 351505Oakleigh CMHT
Ffordd Abbey
Llangollen
Sir Ddinbych
LL20 8SS
Ffon: 01978 860707Tim Dyffryn Clwyd
Noddfa
Middle Lane
Dinbych
LL16 3UR
Ffon: 01745 813138



Rhoi adborth ar y tudalen hon