| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Gwahardd Ysmygu

Gwahardd Ysmygu
Mae'r Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi anfon gwybodaeth at bob busnes yn Sir Ddinbych i ddweud wrthynt sut i gadw at y rheoliadau newydd.
Bydd tair trosedd a bydd perchennog busnes yn torri'r gyfraith os bydd yn:
1 Peidio dangos arwyddion dim smygu mewn adeiladau sy'n dod o dan y gyfraith.
2 Smocio mewn lle di-fwg.
3 Peidio atal smocio mewn lle di fwg.

Os byddwch yn torri'r gyfraith:-
Cewch ddirwy o £50 am smygu mewn lle di fwg. Uchafswm y ddirwy fydd £200 am achos Llys oherwydd nad ydych am dalu'r ddirwy.
Cosb benodol o £200 os mai chi sydd yng nghofal yr adeilad di fwg sy'n methu dangos yr arwyddion priodol. Os ceir chi'n euog, y gosb uchaf fydd £1000.

Gellir dirwyo'r Rheolwr neu berson sydd mewn gofal o unrhyw adeilad di fwg hyd at £2500 am ganiatau i eraill smocio mewn lle di fwg - ni rodddir rhybudd dirwy benodol.

Rhoddir dirwy hyd at £1000 os byddwch yn rhwystro swyddog yr Awdurdod leol rhag gorfodi'r gyfraith newydd.

Pwy fydd yn gorfodi'r gyfraith?
Bydd swyddog yr Awdurdod Lleol yn gorfodi'r gyfraith. Bydd ganddynt bwerau i fynd i adeiladau i weld bod y ddeddf di fwg yn cael ei chadw.
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0