Cynllun Cerdyn Bws rhad a theithio am ddim i drigolion Sir Ddinbych
Mae’r cynllun teithio am ddim was wasanaethau bws lleol Sir Ddinbych yn darparu cerdyn teithio rhad sy’n caniatáu i bobl hŷn a phobl ag anabledd sy’n byw’n barhaol yn Sir Ddinbych i deithio ar wasanaethau bws lleol am ddim.
Mae gennych chi’r hawl i gael cerdyn teithio rhad os ydych chi’n byw’n barhaol yn Sir Ddinbych AC os ydych chi:
- Yn 60 oed neu’n hŷn
- Wedi eich cofrestru fel unigolyn dall neu rhannol ddall gyda’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol
- Wedi eich cofrestru fel unigolyn byddar neu hollol fyddar gyda’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol
- Yn fud
- Heb freichiau neu wedi colli’r defnydd o’r ddwy fraich am gyfnod tymor hir
- Yn anabl neu wedi dioddef anaf sydd wedi cael effaith andwyol sylweddol a thymor hir ar eich gallu i gerdded
- Yn derbyn Lwfans Byw i’r Anabl (gyda’r elfen symudedd cyfradd UWCH)
- Yn derbyn ychwanegiad symudedd pensiynwr rhyfel
- Yn dioddef o anabledd dysgu, hynny yw, cyflwr o oedi neu ddiffyg datblygiad cyflawn y meddwl sy’n golygu nam sylweddol ar ddeallusrwydd a gweithredu cymdeithasol
- Na ellid rhoi trwydded gyrru cerbyd i chi, petaech yn gwneud cais am un, dan Ran III o Ddeddf Traffig y Ffyrdd 1988, yn unol ag adran 92 y Ddeddf (ffitrwydd corfforol) ac eithrio ar sail camddefnyddio cyffuriau neu alcohol yn fynych (Y rhai a waherddir rhag cael trwydded yrru ar hyn o bryd yw pobl gyda’r cyflyrau isod
Epilepsi (onibai ei fod yn fath nad yw’n peri perygl)
Anhwylder meddyliol difrifol
Cyfnodau o bendro neu lewygu (p’un ai o ganlyniad i anhwylder ar y galon neu fel arall)
Anallu i ddarllen plât cofrestru mewn goleuni da ar bellter o 20.5 metr (gyda lensys os yw hynny’n berthnasol)
Anableddau eraill sy’n debygol o achosi perygl i’r cyhoedd os ydynt yn gyrru cerbyd
Mae’r daflen amgaeedig yn rhoi manylion llawn am y cynllun, ac yn cynnwys ffurflen gais. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ar ôl darllen y daflen, mae croeso i chi gysylltu gyda’r:
Grŵp Cludiant Teithwyr
Adran Trafnidiaeth ac Isadeiledd
Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd
Cyngor Sir Ddinbych
Caledfryn
Ffordd y Ffair
Dinbych
LL16 3RJ
Neu ffonio’r Ganolfan Gwasanaethau Cwsmer: 01824 706100 (ymholiadau cyffredinol)
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynghylch cais presennol neu gerdyn teithio i’r anabl, cysylltwch gyda’r Grŵp Cludiant Teithwyr ar 01824 706886 os gwelwch yn dda.

Rhoi adborth ar y tudalen hon