| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Hanes Lleol a Hanes Teulu
Car moduron cynnar, Stryd Fawr Dinbych, 1902

Mae ymchwilio i hanes lleol a hel achau wedi dod yn ddiddordeb hynod o boblogaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda rhaglenni teledu megis "Who do you think you are?" a "House Detectives" yn adlewyrchu’r tueddiad hwn ac yn ysbrydoli eraill i droi eu bryd at y maes hwn.

Nod y canllawiau yma yw cynorthwyo’r rhai sy’n dymuno dechrau ar y broses ymchwilio, ond nad ydynt yn rhy siwr lle i ddechrau. Drwy ddilyn y cysylltau ar ochr chwith y dudalen hon fe gewch eglurhad syml am sut i ddechrau a pha adnoddau sydd ar gael (llawer iawn ohonynt am ddim) i ddarpar dditectifs hanes.

Gall ymchwilio i hanes lleol ac olrhain achau ddatblygu’n ddiddordeb sy’n rhoi boddhad mawr, ond rhaid eich rhybuddio, gall hefyd gymryd llawer o amser a bod yn rhwystredig ambell dro pan yw’r trywydd yn oeri neu’n arwain at ddim!

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych