Pwy yw'r tîm plant ag anabledd?
Mae'r tîm yn cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Cefnogi Teulu a Therapyddion Galwedigaethol.
Mae'r tîm yn anelu at:
- Ddarparu gwasanaeth i alluogi i blant fyw bywydau llawn o fewn eu teuluoedd a'u cymunedau eu hunain;
- Gweld plant fel plant, beth bynnag yw eu hanabledd;
- Gwneud popeth a fedrent i helpu plant gyrraedd eu potensial llawn a lleihau effeithiau eu hanabledd.
Pwy mae'r Tîm Plant ag Anabledd yn eu helpu?
Mae plant gydag anabledd wedi eu diffinio yn Neddf Plant 1989 fel 'plant mewn angen' ac mae gan y tîm ddyletswydd i ddarparu asesiadau ac ystod o wasanaethau ar eu cyfer.
Mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda gweithwyr arbenigol eraill i helpu a chefnogi plant sydd ag anabledd sy'n effeithio eu bywyd bob dydd, a helpu lleihau effaith anghenion hirdymor plentyn ar ei fywyd. Mae hyn yn cynnwys plant gydag anabledd dysgu difrifol, awtistiaeth, anabledd corfforol, salwch sy'n cyfyngu bywyd megis canser, ac anawsterau gweld.
Unwaith y mae'r tîm yn derbyn atgyfeiriad, bydd yn cwblhau asesiad o anghenion y plentyn a'i deulu ac yn nodi sut y gall helpu.
Mae'r tîm yn rhoi cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth ar faterion yn ymwneud â phlant ag anableddau. Addysg, budd-daliadau, hamdden, gofal seibiant a gwyliau - dim ond rhai o'r pethau y medrent roddi help arnynt. Mae gan y tîm lyfrgell o wybodaeth gan gynnwys fideos a llyfrynnau sydd ar gael i rieni a gofalwyr.
Mae'r tîm hefyd yn rhoi gwybodaeth a chyngor i rieni a phlant ar y gwasanaethau sydd ar gael gan asiantaethau eraill.
Mae'r tîm yn darparu ystod o wasanaethau i helpu plant gydag anabledd gynllunio ar gyfer eu dyfodol, ac yn gweithio gydag eraill i sicrhau bod eu hiechyd, addysg ac anghenion gofal cymdeithasol yn cael eu bodloni. Maent hefyd yn sefydlu pecynnau gofal, sy'n cynnwys gofal seibiant, therapi galwedigaethol, offer ac addasiadau, gwaith project, nawdd meithrinfa gofal dydd a gofal gwyliau.
I gael mwy o wybodaeth am ein gwasanaethau neu os hoffech gael cymorth gan y Gwansanaeth Plant a Theuluoedd cliciwch yma
Rhoi adborth ar y tudalen hon