Beth rydym yn ei wneud
Os ydych yn landlord neu denant preifat, yna gall y tîm Gorfodi Tai helpu gyda nifer o agweddau tai a rentir yn breifat. Rydym yn ymateb i gwynion ynglŷn ag amodau byw, diogelwch tân, aflonyddiad neu droi pobl allan o'u cartrefi'n anghyfreithlon, a mwy. Mae gennym hawliau i gyflwyno rhybudd ar eiddo nad yw'n cyrraedd y safonau sy'n ofynnol dan Ddeddf Tai 2004, a byddwn yn rhedeg Cynllun Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth i sicrhau bod y safonau hyn yn cael eu cynnal.
Mae'r tîm hefyd yn delio gyda gwaharddiadau ar ddefnydd a gorchmynion dymchwel yn erbyn eiddo, niwsans statudol, adfer a pharhau cyflenwad dŵr, nwy a thrydan, a byrddio i fyny eiddo lle mae mynediad agored i rwystro mynediad heb awdurdod.
Gorfodaeth Tai Cyffredinol
Mae gorfodaeth tai yn delio â holl faterion perthynol i tai lle mae nifer yn byw, gan gynnwys tai lle mae sawl person yn byw - i gynnwys y canlynol :-
Ymateb i gwynion am gyflwr tai a rentir yn breifat. Ymateb i gwynion am gyflwr fflatlets a fflatiau (tai lle mae nifer yn byw)
Cymhwyso safonau gofod a safonau eraill i bob anedd a thai lle mae nifer yn byw.
- Cymhwyso safonau diogelwch tân i dai lle mae nifer yn byw er mwyn sicrhau bod gan y tenantiaid ddigon o gyfle i ddianc os digwydd tân.
- Delio â gorlenwi aneddau a fflatiau.
- Ymateb i gyhuddiadau o daflu allan yn anghyfreithlon.
- Ymateb i ddadgysylltu cyflenwadau amwynderau.
- Delio gyda gorchmynion cau
- Delio gyda gorchmynion tynnu i lawr
- Delio gydag adeiladau sydd ddim yn ffit
- Delio gyda diffyg atgyweirio eiddo sydd ar rent
- Byrddio eiddo gwag o bo math i atal mynediad heb awdurdod.

Rhoi adborth ar y tudalen hon