| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Cwestiynau a gofynnir yn aml
Mae fy fflat / tŷ ar rent mewn cyflwr gwael, beth ddylwn ei wneud?
Os bydd eich landlord yn gwrthod ymgymryd â'r gwaith i wella'r amodau gwael, cysylltwch â ni. Caiff eich cwyn ei phrosesu ac yn dibynnu ar natur y gwaith, efallai bydd swyddogion yn archwilio'r eiddo a hysbysu'r landlord o'r dyletswyddau cyfreithiol, trwy roddi cyngor, llythyr neu rybudd. 
 
Mae fy landlord yn ceisio gwneud i mi adael, pa hawliau sydd gennyf?
Mae unrhyw gamau a gymerir gan eich landlord neu bobl yn gweithio ar ei ran, sy'n gwneud i chi deimlo na fedrwch aros yn eich cartref, yn cael ei ystyried fel aflonyddiad: cysylltwch â ni a bydd y swyddogion yn delio â hwy.
Os bydd landlord yn gwneud i chi adael eich cartref heb roddi rhybudd priodol i chi, mae hyn yn ddadfeddiant anghyfreithlon ac yn drosedd ddifrifol.
 
Pa help sydd ar gael i landlordiaid?
Rydym yn ceisio gweithio'n agos â landlordiaid i sicrhau bod eu heiddo mewn cyflwr da. Mae swyddogion ar gael i roddi unrhyw help neu gyngor sydd ei angen ac rydym yn annog landlordiaid i gadw mewn cysylltiad â ni. 
 
Mae 'Fforwm Landlordiaid Sir Ddinbych' yn cyfarfod bob chwarter ac mae'n gyfle i landlordiaid gyfarfod a thrafod barn gyda swyddogion ac aelodau'r cyngor. Cysylltwch â ni er mwyn cael eich dodi ar y rhestr i dderbyn gwahoddiad i'r cyfarfodydd.
 
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0