| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Sut mae cysylltu efo'r Gwasanaeth Plant a Theuluo

Os hoffech wybodaeth bellach ar ein gwasanaethau, neu os hoffech ofyn am help gan y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd, cysylltwch â:

Tîm Cyswllt Cyntaf   
64 Brighton Road    
Y Rhyl
Sir Ddinbych     
LL18 3HP

Ffôn: 01824 712900   
Ffacs: 01824 712888   

Cyfrinachedd
Mae holl wybodaeth bersonol a roddir i aelod staff yn cael ei thrin yn gyfrinachol. Os oes perygl niwed i blentyn, efallai y bydd angen rhannu manylion personol, ond dim ond gyda phobl sydd angen gwybod ac sy'n chwarae rhan men gofalu am y plentyn.

Cwynion
Os ydych yn llai na hapus ynglŷn â'r help rydych wedi ei dderbyn, neu os ydych yn credu nad ydym yn helpu digon, mae gennych yr hawl i gwyno (cyswllt i'r dudalen gwyno).

Gyda phwy fyddaf yn siarad pan fyddaf yn cysylltu â'r gwasanaeth Plant a Theuluoedd?
Os ydych yn ffonio neu'n ymweld â swyddfa'r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd, byddwch yn siarad ag aelod staff yn y tîm cyswllt cyntaf. Byddant yn gofyn am fanylion sylfaenol chi a'ch plant, neu'r plant rydych yn bryderus ynglŷn â hwy.

Pa mor gyflym medraf ddisgwyl help?
Bydd y Gweithiwr Cyswllt Cyntaf yn medru dweud wrthych os ydynt yn meddwl y gall y Gwasanaeth eich helpu, neu a fyddai modd i chi gael cyngor neu gefnogaeth yn rhywle arall, megis: iechyd, addysg a chyrff gwirfoddol.

Os yw plentyn mewn perygl o ddioddef niwed arwyddocaol yna bydd y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd yn dechrau gwneud ymholiadau ar unwaith i sicrhau bod y plentyn yn ddiogel. Mewn achosion eraill, bydd y tîm Cyswllt Cyntaf yn dyrannu tîm gwaith cymdeithasol, a fydd yn nodi gweithiwr cymdeithasol i ganfod mwy am yr achos. Ar ôl yr asesiad byddwn yn dweud wrthych beth sy'n debygol o ddigwydd nesaf.

Pryd fydd Gweithiwr Cymdeithasol yn cael ei ddyrannu i mi?
Unwaith rydych wedi siarad ag aelod o'r tîm Cyswllt Cyntaf, byddant yna'n trosglwyddo eich achos i'r bobl berthnasol a fydd, yn eu tro, yn dyrannu Gweithiwr Cymdeithasol i chi.


Beth a fydd yn digwydd ar ôl i mi siarad efo'r Gweithiwr Cymdeithasol?
Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol eisiau cymaint o wybodaeth ag y bo modd gan blant neu ofalwyr y plentyn a'r plentyn, os ydynt yn ddigon hen, a byddant eisiau gwybod beth yw eu teimladau hwy ar ddelio â'r problemau. Bydd y gweithiwr cymdeithasol hefyd yn holi staff proffesiynol eraill sy'n adnabod y plentyn, neu'r teulu, am wybodaeth. Gall hyn gynnwys yr ysgol, ymwelydd iechyd neu'r meddyg, neu unrhyw staff proffesiynol arall sy'n delio â'r teulu. Byddwn yn trin y wybodaeth hon yn gyfrinachol.

Byddwn yn casglu ynghyd yr holl wybodaeth am y plentyn a'r teulu ac asesu pa gamau a ddylid eu cymryd nesaf a pha help sydd ei angen, mewn 'asesiad rhagarweiniol'. Byddwn  yna'n rhoi i rieni neu ofalwyr gyfle i weld canlyniad hyn ac ychwanegu eu sylwadau hwy.

Mae'r asesiad yn ystyried cryfderau'r plentyn a'r teulu a sut gellir adeiladu ar y rhain ynghyd ag edrych ar y problemau. Weithiau mae hyn yn syml ac mae modd cyflawni hyn yn eithaf cyflym. Gelwir hyn yn asesiad rhagarweiniol.

Ar adegau eraill, yn enwedig os yw'r broblem yn gymhleth, gall asesiad gymryd yn hirach, ac efallai y bydd angen gofyn am gyngor gan eraill gyda sgiliau arbenigol. Gelwir hyn yn asesiad craidd. Os ydych angen asesiad craidd, rydym yn ceisio sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau o fewn 28 diwrnod. Os bydd yn cymryd mwy o amser, byddwn yn dweud pam.

Mae llawer o'r wybodaeth ar gyfer asesiad yn dod gan y teulu ei hunan. Er mwyn cael yr help priodol. Mae'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn gweithio'n galed gyda phlant a'r teuluoedd i gael yr asesiadau'n iawn.
 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0