Ein sir . . . Ein dyfodol
Rhannu ein Gweledigaeth i’r Dyfodol
Datblygwyd Gweledigaeth i Sir Ddinbych fel cynllun canolog i ddylanwadu ar a llywio gwaith y Cyngor a’i sefydliadau partner.
Ers mis Medi 2005 mae cymunedau a chynghorau lleol, asiantaethau statudol a gwirfoddol, busnesau lleol, plant ysgol a llu o rai eraill wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i ddisgrifio sut le y gallai Sir Ddinbych fod ymhen ugain mlynedd. Mae’r Weledigaeth yn adlewyrchu’r sylwadau a’r syniadau a fynegwyd yn ystod y broses hon.
Cyhoeddwyd dogfen ddrafft ym mis Mawrth 2006 er mwyn ymgynghori ynghylch y weledigaeth, ac fe gymeradwywyd y Weledigaeth gan aelodau etholedig Cyngor Sir Ddinbych ar 4 Ebrill 2006.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio, byw ac ymweld a Sir Ddinbych wedi cyfrannu syniadau i’r llyfryn hwn Gobeithio eich bod yn cytuno â ni - a bod gennych rai syniadau eich hun.
Beth mae ein PLANT ei eisiau?
Y ffordd orau i wybod hyn yw gofyn iddyn nhw wneud y lluniau i’r llyfryn hwn - oherwydd y plant yw ein dyfodol. Mae nhw’n llawn o syniadau am weledigaeth am Sir Ddinbych yn 2025.
I gael mwy o wybodaeth am bolisi a pherfformiad cliciwch yma tudalen Polisi a Perfformiad
MWYNHAU A CHAEL EICH YSBRYDOLI


Rhoi adborth ar y tudalen hon