Mae Arena Gweithgareddau Awyr Agored y Rhyl yn rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau i ddyfodol glan y môr yn y Rhyl.
Mae yn wythdeg metr o ran diameter, ac mae yn lleoliad ffantastig i gynnal cyngherddau haf, hefo lle i 8,000 o bobl. Bu yn boblogaidd i gynnal dawnsio llinell a gwyl Canu Gwlad, sioe ffordd neu sioe statig, a bu'r arena yn safle poblogaidd. Y cyngherddau a gynhaliwyd yno yn y gorffennol yw:- Radio One Roadsow, BBC Blue Peter Roadshow, CBBC Roadshow, Channel Four Big Breakfast a BBC Radio Wales "Big Buzz". Bydd trefnwyr yn dychwelyd yno dro ar ôl tro, mae cyfleusterau ardderchog yno a rhoddir cefnogaeth i'r lle gan dim ymroddedig o swyddogion Cyngor Sir Ddinbych.
Lleolir yr arena tua 300m o ganol tref y Rhyl ac o fewn 200 metr o faes parcio tanddaearol, sydd a lle i tua 500 o gerbydau. Mae llefydd parcio ychwanegol ar hyd glan y môr.
I gael mwy o wybodaeth am Arena'r Rhyl neu weithgareddau hamdden eraill ffoniwch:
Swyddog Gweithgareddau Hamdden ar 01824 712704

Rhoi adborth ar y tudalen hon