Gwasanaeth Cefnogaeth Ymddygiad
Mae’r Gwasanaeth Cefnogaeth Ymddygiad yn darparu cefnogaeth, ymyriadau a darpariaeth ar gyfer disgyblion sydd ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol.
Mae’r amcanu i wneud hynny trwy:
- Ddarparu cymorth peripatetig yn yr ysgol gan staff profiadol ym maes rheolaeth ymddygiad, gyda’r bwriad o helpu disgyblion a gyfeiriwyd i gynnal eu lleoliad mewn addysg priflif.
- Ddarparu lleoliadau tymor-hir a thymor-byr, mewn canolfannau dynodedig, i ddisgyblion yr ystyrir addysg priflif yn anaddas iddynt
- Drefnu darpariaeth addysgol amser-llawn mewn coleg i ddisgyblion Blwyddyn 11 a fyddai’n gweithio’n fwy effeithiol mewn sefyllfa Addysg Bellach.
- Ddarparu Hyfforddiant Cartref i ddisgyblion y mae eu cyflwr meddygol yn rhwystro iddynt fynychu ysgol.
Yn ogystal, mae’r Ganolfan Cefnogaeth Ymddygiad yn cynnig ystod o becynnau hyfforddiant yn ymwneud â rheolaeth ymddygiad a disgyblaeth.
Gellir cysylltu â’r Gwasanaeth Cefnogaeth Ymddygiad, yn gyntaf, yn:
Canolfan Addysg
Lôn Ganol
Dinbych
LL16 3UW
Ffôn: 01824 712032


Rhoi adborth ar y tudalen hon