| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Addysg

Addysg, Disgyblion a Rhieni
yn gweithio gyda’i gilydd


Mae Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Addysg Sir Ddinbych yn bodoli i alluogi pob plentyn yn y sir i wneud y mwyaf o gyfleoedd addysg gyda’r nod o uchafu eu profiadau dysgu a’u potensial. Mae’r Gwasanaethau Addysg yn ymroddedig i weithio mewn partneriaeth â disgyblion, rhieni, ysgolion ac asiantaethau eraill i hyrwyddo’r deilliannau hyn.

Cyflwyniad

Mae diffyg presenoldeb yn yr ysgol, am unrhyw reswm, yn fater pwysig y mae’n rhaid ei gymryd o ddifrif. Fodd bynnag, mae pob achos yn wahanol ac nid oes un llwybr safonol i’w dilyn wrth gyflwyno strategaethau ymyrryd.

Mewn rhai achosion gellir defnyddio achos llys fel y cam olaf, pan yw strategaeth ymyrryd eraill wedi methu â sicrhau gwelliant yn y lefel presenoldeb yn yr ysgol. Mewn achosion eraill efallai mai achos llys yw’r unig ymateb priodol, lle gallai gweithredu ar fyrder atal problemau rhag gwaethygu.

Mae’n hanfodol gweithredu ar fyrder gyda pob achos o ddiffyg presenoldeb. Mae’n gyfrifoldeb rhwng rhieni, yr ysgol a’r Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Addysg i sicrhau bod plentyn yn derbyn addysg amser llawn.

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0