| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Cofrestri Plwyf

Mae'r rhain yn cofnodi bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau. Er bod rhai cofrestri plwyf yn dechrau ddiwedd yr unfed-ganrif-ar-bymtheg a dechrau'r ail-ar-bymtheg, mae'r rhan fwyaf yn dechrau ar ôl 1660, a gall ddyddio hyd y dydd presennol os bydd eglwys y plwyf yn parhau.

Cofrestri Plwyf yn Archifdy Sir Ddinbych

Gydag ychydig o eithriadau, mae holl gofrestri bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau cyn yr ugeinfed ganrif ar gyfer plwyfi yng nghyn-sir Clwyd wedi eu hadneuo naill ai yn Archifdy Sir Ddinbych neu Sir Y Fflint, ac eithrio cofnodion deg o gyn-blwyfi Clwyd a ddelir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, a chofrestri ar gyfer dosbarth Edeyrnion Meirionnydd a ddelir yn Archifdy Dolgellau. Mae'r holl gofrestri hyn ar ffurf microffilm ac maent ar gael yn Archifdy Sir Ddinbych, a hefyd yn Archifdy Sir Y Fflint a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae Cofrestri Plwyf Cymru/Parish Registers of Wales a luniwyd gan C J Williams a J Watts-Williams (Llyfgell Genedlaethol Cymru, 1986) yn rhoddi gwybodaeth ar holl gofrestri plwyf Cymru sydd ar gael, gyda'i lleoliad.

Ac eithrio mewn amgylchiadau anarferol iawn, nid yw'r cofrestri gwreiddiol yn cael eu dangos : mae copïau microffilm ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio, ac fe'ch cynghorir chi i drefnu ddarllenydd microffilm ymlaen llaw cyn eich ymweliad. At hyn mae cyfrolau adlun ar y silffoedd agored ar gyfer rhai o'r plwyfi mwy, ac mae Cymdeithas Hanes Teuluoedd Clwyd bron wedi cwblhau adysgrifo a llunio mynegai ar gyfer yr holl gofrestri cyn 1812, copïau o'r rhain sydd hefyd ar gael i'r cyhoedd. Mae copïau ar gael ar y silffoedd agored neu gellir eu prynu ar eu gwefan ( dilynwch y linc ar y dudalen hon).

Delir adysgrifau esgob esgobaeth Llanelwy ar ficroffilm, sef copïau o'r cofrestri a anfonir yn flynyddol at yr esgob gan pob periglor. Ar gyfer y rhan fwyaf o blwyfi, mae'r ffilmiau, a wnaed gan Eglwys Iesu Grist Sant y Dyddiau Diweddaf yn y 1950au, yn gopïau o adroddiadau 1660au i 1850au, gan nad oedd rhai o'r adroddiadau cynharaf wedi eu trefnu bryd hynny, ac felly ni chawsant eu ffilmio. Mae adysgrifiadau'r esgob yn ffynhonnell ddefnyddiol pan fo'r cofrestri eu hunain ar goll. Rhestr o Gofrestri Plwyf. Cliciwch ar y linc ar y dudalen hon i gael rhestr o gofrestri'r plwyf.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0