Cofresti Capel
Mae'r rhain yn bennaf yn gofresti genedigaethau/bedyddio capelwyr. Roedd enwadau anghydffurfwyr/capel yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn bennaf yn Fethodistiaid Calfinaidd/Presbyteriaid; Methodistiaid Wesleaidd; Methodistiaid Cyntefig, Annibynwyr neu Fedyddwyr. Mae'r rhan fwyaf o'r cofrestri, ar ficroffilm yn bennaf, yn dod o ddechrau'r 19eg ganrif hyd at 1837 (sydd yn cynnwys mynegai) neu gofnodion bedydd cylchdaith Wesleaidd o oddeutu 1840 ymlaen. Mae gwybodaeth am gofrestri capel a chofnodion a gedwir mewn mannau eraill ar gael. Hefyd, yn y 19eg ganrif roedd genedigaethau, priodasau a marwolaethau yn cael eu cofnodi mewn cyhoeddiadau enwadol Cymraeg - gall y staff ddweud wrthych ble i gael hyd i'r rhain.


Rhoi adborth ar y tudalen hon