Dechreuodd cofrestriadau sifil genedigaethau, priodasau, a marwolaethau ar 1af Gorffennaf 1837, yn ol gofynion Deddf Gofrestru 1836. Yn ol y gofynion rhannwyd Cymru yn ardaloedd cofrestru a phenodwyd cofrestrydd goruchwylio i bob un o'r ardaloedd hyn. Is-rannwyd yr ardaloedd ac fe benodwyd cofrestryddion ar gyfer yr is-ardaloedd hyn. Nid oedd cofrestru dinesig yn orfodol hyd 1875; fe all fod hyd at 10% wedi'u gadael allan yn 1840au.
Mae gan archifdy Sir Ddinbych gopiau microfilm o'r mynegeion cenedlaethol rhwng Gorffennaf 1837 a Rhagfyr 1865 (cynghorir chi i fwcio peiriant microfilm cyn eich ymweliad). Mae mynegeion cenedlaethol dyddiadau hwyrach ar gael yn llyfrgell Sir y Fflint yn Yr Wyddgrug ac yng Nghanolfan Hanes Teulu Clwyd yng Nghefn Mawr. Gellir prynu copi o'r tystysgrifau o'r Swyddfa Gofrestru Cyffredinol yn Southport neu gan y Goruchwyliwr Cofrestru lleol (cliciwch ar y linc ar y dudalen hon i gysylltu).
Gellir hefyd chwilio ar lein am Enedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau sawl ardal o Gymru a Lloegr yn yr Archifdy.


Rhoi adborth ar y tudalen hon