Cymorth i Ofalwyr
Pwy ydy'r Gofalwyr ?
Pobl sy'n gofalu dros aelodau'r teulu neu dros ffrindiau sy angen gofal, cefnogaeth, neu help arnyn nhw ydy gofalwyr. Gall y gofalwr fod yn rhywun sy'n gofalu dros oedolion eraill, rhieni sy'n gofalu dros blant sy'n sâl neu'n anabl, neu bobl ifainc sy'n gofalu dros aelod arall o'r teulu.
Does dim mo'r fath beth â gofalwr nodweddiadol. Ni fydd rhai gofalwyr yn ystyried eu bod yn ofalwyr. Pobl sy ddim yn cael tâl am ofalu sy'n gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith gofalu yn y gymuned.
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych yn cydnabod y gwaith pwysig mae'r gofalwyr yn ei wneud. Os ydych chi'n gofalu dros rywun yna mae'r daflen hon yn egluro sut i gael help.
Help i'r Gofalwyr
Bydd angen mathau gwahanol o help arnoch efallai, dyma ichi rai mathau o help:
- gwybodaeth, cefnogaeth, cyngor
- help i'r un rydych chi'n gofalu amdano
- gwasanaethau sy'n gallu'ch helpu chi i ofalu neu i gynnal eich iechyd eich hun
Gwybodaeth, Cefnogaeth, a Chyngor i Ofalwyr
Gall y gwasanaethau Cymdeithasol roi gwybodaeth a chyngor ynghylch nifer o bethau. Mae cyfeiriadau a rhifau ffôn y swyddfeydd Gwasanaethau Cymdeithasol yn Sir Ddinbych.
Gall eich meddyg teulu a rhai sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd ateb eich cwestiynau ynghylch materion iechyd.
Gall cymdeithasau gwirfoddol fel y Cynllun Cynhalwyr roi gwybodaeth, cefnogaeth, a chyngor. Gallan nhw hefyd eich rhoi chi mewn cysylltiad â Grwpiau Cefnogi Gofalwyr.Yn y grwpiau hyn cewch y cyfle i gyfarfod â gofalwyr eraill i rannu profiadau ac i gynnal eich gilydd.
Mae cyngor a gwybodaeth ar gael oddi wrth y Canolfannau Cynghori (CAB), Siop Cyngor ar Fudd-dal, a'r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, ynglyn â budd-daliadau ariannol y gallech fod â hawl iddyn nhw.
Mae cyngor ar gael oddi wrth y Therapyddion Galwedigaethol ynghylch y dulliau mwyaf diogel i osod neu i symud y bobl rydych chi'n gofalu amdanyn nhw er mwyn osgoi'r perygl o niweidio'r naill neu'r llall.
Ceir y gwasanaethau hyn am ddim.
Help i'r Sawl rydych chi'n Gofalu Amdano
Gallwch drafod gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol a oes unrhyw wasanaethau y gallan nhw'u cynnig i'r un rydych chi'n gofalu amdano. Ymhlith y gwasanaethau y gall Gwasanaethau Cymdeithasol eu rhoi mae:
- help gyda phethau ymarferol, gan gynnwys gofal personol
- cyfarpar at anabledd neu addasiadau i'r cartref
- seibiant neu gyfnod oddi cartref - gallwn gynnig ambell ffordd o ofalu er mwyn ichi neu'r un rydych chi'n gofalu amdano gael seibiant am ddiwrnod neu ragor .
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol angen asesu anghenion y person rydych yn gofalu amdano. Gellir gofyn i chi gyfrannu i’r trafodaethau hyn.
Fel rhan o’r asesiad bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystyried a yw’r person rrdych yn gofalu amdano yn deilwng i gael Gwasanaeth.
Mae meini prawf gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer penderfynu pwy sy'n cael y gwasanaethau hyn. Ar y cyfan, caiff pobl flaenoriaeth yn ôl eu hanghenion a'r risg o berygl.
Cewch wybod mwy am y manylion ynghylch pwy a gaiff flaenoriaeth am y gwasanaethau yn y daflen 'Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Oedolion yn Sir Ddinbych”.
Efallai y bydd costau am rai gwasanaethau. Mae'r gost i'r person rydych chi'n gofalu amdano yn dibynnu ar ei incwm (gan gynnwys budd-daliadau) ac ar yr arian a gynilwyd ganddo.
Help i Chi
Os ydych chi'n gofalu, neu'n cynllunio i ofalu, dros rywun yn sylweddol ac yn rheolaidd yna gallwch gysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud cais am asesiad gofalwr. Bydd yr asesiad yn gallu penderfynu a all y Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno neu drefnu gwasanaeth a all eich helpu chi i ofalu neu i gynnal eich iechyd.
Os rydych chi'n gofalu am oedolyn yna gallwch wneud cais am asesiad gofalwr i drafod yr help sydd ei angen arnoch. Gall hyn ddigwydd hyd yn oed os ydy'r person rydych chi'n gofalu drosto yn gwrthod help.
Os rydych chi'n gofalu am blentyn sy'n anabl gallwch hefyd wneud cais am asesiad gofalwr ar wahân. Bydd yr anghenion a asesir yn cael eu hystyried yn rhan o asesiad o anghenion eich plentyn a'ch teulu.
Beth ydy amcan yr asesu?
Bydd eich asesiad gofalwr yn rhoi'r cyfle ichi sôn wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol am bethau a allai wneud gofalu'n haws ichi.
Efallai yr hoffech ystyried pethau fel hyn
- Ydych chi'n cael digon o gwsg?
- Ydych chi'n cadw'n iach?
- Ydych chi'n gallu mynd allan?
- Os gennych chi'r amser i chi eich hunan?
- Ydy hyn yn dylanwadu ar eich perthynas â phobl eraill?
- Ydych chi am gael gwybodaeth ynghylch budd-daliadau?
- Ydych chi'n pryderu efallai y bydd rhaid rhoi'r gorau i weithio?
- Ydy'r sawl rydych chi'n gofalu amdano'n cael digon o help?
Yn breifat y gwneir eich asesiad, ac ni fyddwn yn rhoi unrhyw wybodaeth i'r un rydych chi'n gofalu amdano heb ichi roi eich caniatâd inni.
Pa fath o wasanaeth a all gael eu cynnig?
Ymhlith y mathau o wasanaethau a gynigir i chi neu i’r person sydd yn eich gofal:
- gwasanaethau a all roi seibiant ichi
- help gyda gwaith gofalu yn ystod y nos/dydd
- gweithgareddau ar gyfer yr un rydych chi'n gofalu amdano help gyda'r gwaith ty
cyngor am fudd-daliadau
Unigolyn yw pob un gofalwr, felly os oes unrhyw wasanaeth y tybiwch all eich helpu yna gallwch siarad gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol i weld a oes unrhyw beth y gallan nhw wneud i'ch helpu.
Weithiau codir tâl am wasanaethau. Byddwn yn egluro os oes tâl yn gymwys.
Beth os fydda i am wneud sylwadau neu am gwyno ynghylch y Gwasanaethau Cymdeithasol?
Gallwch roi gwybod inni ynghylch unrhyw sylw, ganmoliaeth, neu gwyn, ynghylch ein gwasanaeth. Cewch wybodaeth am sut i wneud hyn yn y daflen -Ydych chi'n fodlon â'r Gwasanaethau a Dderbyniwch?
Siop Cyngor ar Fudd-daliadau
19 Bedford Street,
Y Rhyl,
Sir Ddinbych,
LL18 1SY
Ffon: 01745 345145



Rhoi adborth ar y tudalen hon