Taliad arian parod yw taliad uniongyrchol i ganiatáu i chi brynu eich cymorth eich hun yn lle bod Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei ddarparu i chi.
Yn dilyn ein hasesiad gofal cymunedol, gallwch nawr ddewis cael gwasanaethau yn uniongyrchol gan y Gwasanaethau Cymdeithasol neu gael taliad uniongyrchol.
Gallwch ddefnyddio'r arian hwn i gyflogi cymhorthydd personol neu gallwch ddefnyddio asiantaeth i ddarparu staff i chi. Gallwch 'mix and match' a chael peth cymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a chael peth taliad uniongyrchol.
Fedrwch chi ddim defnyddio'r arian i gyflogi person sy'n byw yn eich cartref. Rhaid i chi ddefnyddio'r arian i gyfarfod eich anghenion a aseswyd.
Bydd gofyn i chi agor cyfrif banc gwahanol i gael yr arian ac anfon datganiad banc misol o'r cyfrif hwn.
Bydd y Gwasanaeth Taliad Uniongyrchol (The Rowan Organisation) yn rhoi pob cymorth i chi i weithredu taliadau uniongyrchol.
Mae gan y rhan fwyaf o bobl sy'n derbyn Gwasanaethau Cymdeithasol gan y Cyngor Sir hawl i gael taliadau uniongyrchol, sef:
- Pobl Hŷn a aseswyd i gael Gwasanaethau Cymdeithasol Cymunedol
- Pobl anabl 16 oed a throsodd hefo anghenion tymor byr a thymor hir
- Gofalwyr, yn lle derbyn gwasanaethau gofalwyr
- Teuluoedd hefo plant anabl yn cael gwasanaethau plant
- Rhieni anabl yn cael gwasanaethau plant



Rhoi adborth ar y tudalen hon