Ewyllysion a chofnodion profeb
Cyn 1858 roedd ewyllysiau (weithiau gyda rhestrau eiddo) yn cael eu "profi" yn llys yr esgob. Cedwir cofnodion gogledd-ddwyrain Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Cedwir mynegai o'r cofnodion hyn yn Rhuthun. Ar ôl 1858, cyhoeddwyd mynegai ewyllysion yn rhoi manylion byr (enw'r ymadawedig, cyfeiriad, swydd ac ati). Mae gan yr Archifdy y mynegai ar gyfer Cymru a Lloegr yn y cyfnod 1858-1928.
Yn ogystal mae'r ewyllysiau o fewn y casgliadau archifol a gedwir yn Archifdy Sir Ddinbych wedi eu cynnwys mewn mynegai enwau personol sydd yn bosib ei harchwilio ar lein. O flaen y cyfeirnod nodir y gair "ewyllys". Dilynwch y cyswllt i'r mynegai ar lein.


Rhoi adborth ar y tudalen hon