Cynllun Gweithredu Cefnogi Pobl Sir Ddinbych 2008 - 09 a Strategaeth 2008 - 11
Mae’r Cabinet wedi cytuno â’r Strategaeth Cefnogi Pobl ac mae wedi’i chyflwyno i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Cafodd y Strategaeth Cefnogi Pobl ei datblygu gan y Tîm Cefnogi Pobl, a oedd yn cael ei arolygu gan y Grŵp Cynllunio Cefnogi Pobl. Diben y ddogfen yw amlinellu’r weledigaeth a chyfeiriad y newidiadau ar gyfer y gwasanaethau sy’n cael eu cyllido gan Cefnogi Pobl yn Sir Ddinbych yn ystod y tair blynedd nesaf, gan symud oddi wrth y gwasanaethau a etifeddwyd o’r cyfnod cyn cyflwyno’r Rhaglen Cefnogi Pobl fis Ebrill 2003.
Mae’r strategaeth yn symud tuag at ddulliau mwy strategol o gomisiynu, cynllunio a chyllido gwasanaethau tai a chefnogi tenantiaid yn y dyfodol. Bydd hyn yn golygu sicrhau y nodir darparu gwasanaeth fel blaenoriaeth, ei fod yn cael canlyniadau positif a bod ganddo gysylltiadau diffinedig â chynlluniau strategol cyffredinol ac allweddol ac â’r Fframweithiau Gwasanaeth Cenedlaethol.
Cytunwyd ar nodau, amcanion a gweledigaeth y strategaeth, ac felly hefyd y gweithrediadau ar gyfer 2008 – 09. Nid yw’r gweithrediadau ar gyfer y tu hwnt i 2009 yn bendant a bydd y rhain yn cael eu diweddaru a’u datblygu ar ôl trafod gyda darparwyr a rhanddeiliaid.
Gellir gofyn am gopi llawn o’r cynllun a / neu’r atodiadau oddi wrth y Tîm Cefnogi Pobl neu drwy e-bost at katie.davies@sirddinbych.gov.uk
Asesiad risg a chyfaddasrwydd y gwasanaeth arfaethedig i bobl ifanc yn Llys Gwyn
(doc, 10,337.79 KB) Efallai eich bod yn ymwybodol fod Cyngor Sir Ddinbych, mewn ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus, wedi comisiynu astudiaeth asesiad risg a dichonolrwydd ynglŷn â chynnig am gynllun tai â chymorth bychan yn Llys Gwyn, Stryd y Dyffryn, Dinbych. Y cynnig oedd darparu 6 o fflatiau bach ar gyfer pobl ifanc hyd at 25 oed. Rwy’n amgáu copi o adroddiad yr Ymgynghorwr er gwybodaeth.
Strategaeth Cefnogi Pobl 2008-2011 a Chynllun Gweithredol 2008-2009 Sir Ddinbych
(pdf, 1,054.92 KB) Mae fframwaith polisi Cefnogi Pobl yn berthynol i ddarparu a chomisiynu cefnogaeth tai yn Sir Ddinbych (cefnogaeth gyffredinol i alluogi person i reoli a/neu gynnal tenantiaeth a bywyd annibynnol).
Mae hwn yn cynrychioli’r Strategaeth Cefnogi Pobl Sir Ddinbych gyntaf ac mae’n ymgorffori’r chweched Cynllun Cefnogi Pobl Gweithredol (SPOP) a gynhyrchwyd gan Gyngor Sir Ddinbych sy’n ystyried y gwasanaethau cefnogi sy’n berthnasol i’r tai sydd eu hangen i gyfarfod ag anghenion grwpiau sy’n agored i niwed sy’n byw o fewn Sir Ddinbych am y cyfnod Ebrill 1 2008 hyd Fawrth 31 2011.
Strategaeth Cefnogi Pobl Drafft 2008-2011 A Chynllun Gweithredol 2008-9 Crynodeb Gweithredol
(pdf, 83.09 KB) Cafodd y ddogfen hon ei chynhyrchu gan Dîm Cefnogi Pobl yn Sir Ddinbych dan oruchwyliaeth y Grŵp Cynllunio Cefnogi Pobl (GCCP), sy’n gweithredu fel corff comisiynu ar gyfer gwasanaethau cefnogi tai yn Sir Ddinbych.