RHYDDID GWYBODAETH
Pwrpas y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yw i greu awyrgylch agored ac eglur rheolaeth o fewn awdurdodau cyhoeddus.
Mae'r Ddeddf yn rhoi hawl gyffredinol i'r cyhoedd cael gweld pob math o wybodaeth a ddelir gan awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys Cyngor Sir Ddinbych. Mae'n ofynnol i Cyngor Sir Ddinbych ymateb i unrhyw cais am wybodaeth gydag ymateb cyflawn i chi o fewn 20 diwrnod. Er hyn, fydd achlysuron pan na fydd y wybodaeth yn cael ei ddatgan oherwydd rhai o eithriadau'r Ddeddf.
Dyma rhagflas o rai o cwestiynau a dderbyniwyd gan Cyngor Sir Ddinbych ers cyflwyniad y Ddeddf yn Ionawr 2005:
Beth oedd cost comisiynu y gwaith arlunio yng nghwrt swyddfeydd newydd y Cynor yn Rhuthun a beth oedd ffynhonnell yr arian?
Yn dilyn ymweliad diweddar a'r parc sgrialu yn Rhyl hoffwn dderbyn wybodaeth ynglyn a cost, amser a gymerwyd i'w adeiladu, costau cynhaliaeth a lluniau o'r parc i'm galluogi i gynnig syniad tebyg i fy nghyngor lleol i adeiladu parc o'r fath.
Faint o ddisgyblion a ddiarddelwyd o'ch ysgolion uwchradd yn ystod 2002/03, 2003/04 a 2004/05?
Hoffwn dderbyn copi o polisi a strategaeth y Cyngor a'r claddu sbwriel mewn chwareli hynafol.
Nifer staff yr adran TGCh, cyfanswm gwariant TGCh, cyfanswm gwariant ar caledwedd a feddalwedd?
Pob darn o wybodaeth yn berthnasol a'r mater diweddar o gosod taliadau parcio ceir yng Nghorwen.


Rhoi adborth ar y tudalen hon