Mae gan Archifdy Sir Ddinbych ystod eang o gofnodion gwreiddiol, sy’n cynnwys gwybodaeth werthfawr o’r ail ganrif ar bymtheg hyd yr ugeinfed ganrif, ar gyfer yr ymchwilydd hanes lleol. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys: mapiau, cofnodion stad, gweithredoedd, cofnodion plwyf, cofnodion cyngor, cofnodion llys, hen ffotograffau, papurau newydd, cyfarwyddiaduron masnachol, a ffurflenni cyfrifiad. Gallwch bori yn ein mynegai lleoedd ar-lein i gael syniad o’r hyn sydd ar gael am blwyfi a threfi yn Sir Ddinbych, yn cynnwys y rhai oedd yn Sir Ddinbych cyn 1974.
Yn ogystal, mae llawer o grwpiau hanes lleol yn Sir Ddinbych a fydd yn gallu eich helpu gyda'ch ymchwil ac mae gan eich llyfrgell lleol nifer fawr o adnoddau hanes lleol ar gael. Dilynwch y cysylltiadau ar y dudalen hon am fwy o fanylion.