Cynllun Gwella Sir Ddinbych
Gydag arweiniad gan y Weledigaeth ar gyfer Sir Ddinbych yn 2025, nod Cyngor Sir Ddinbych yw dargludo gwasanaethau sy’n gwella’n barhaus ac sy’n cyfarfod ag anghenion pobl leol.
Mae ein Cynllun Gwella 2008 - 11 yn amlinellu ein perfformiad y llynedd, y gweithrediadau y byddwn yn eu cymryd dros y tair blynedd nesaf a’r targedau a osodwyd i wella gwasanaethau a dargludo’r Weledigaeth.
Cyhoeddwyd crynodeb y Cynllun Gwella yn gyntaf yn Llais y Sir ym mis Hydref. Mae manylion pellach Blaenoriaethau’r Cyngor a pherfformiad yn y gorffennol wedi eu hychwanegu yng nghrynodeb y wefan sydd ar gael isod.
Fe groesawn eich adborth ar y Cynllun Gwella. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu fe hoffech gael y Cynllun Gwella mewn fformat gwahanol fel Braille, teip bras neu ar dâp sain cysylltwch â’r Uned Polisi Strategol.
Ar gyfer y blynyddoedd nesaf rydym wedi dewis set newydd o flaenoriaethau. Bydd ein ffocws ar Foderneiddio Addysg yn parhau. Fe ddatblygir ein gwaith ar y ffyrdd i ddelio â Ffyrdd ac Amddiffynfeydd rhag Llifogydd.
Bydd dwy flaenoriaeth newydd yn edrych ar Ymateb I Newid Demograffig yn cynnwys effaith hyd oes hirach a phoblogaeth sy’n heneiddio, ac ar Adfywio ein Cymunedau drwy chwe Ardal Gynllunio Cymunedol Lleol.
Gobeithio y bydd y Cynllun Gwella hwn o ddiddordeb i chi ac fe edrychwn ymlaen at dderbyn unrhyw adborth a fydd gennych arno neu ar unrhyw un o’r gwasanaethau a ddarparwn.


Rhoi adborth ar y tudalen hon